Dechrau da i Gastell Newydd Emlyn

Nôl ar frig y gynghrair i ddechrau 2024

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Ar ôl saib mawr dros y Gaeaf, roedd tîm hoci Castell Newydd Emlyn nol yn chwarae adref yng Nghrymych, gan groesawi trydydd tîm Penarth am ail gêm y tymor. Yn dilyn gem gyfartal yn eu herbyn ym mis Medi, roedd y tîm yn awchu i gipio’r fuddugoliaeth y tro yma.

Gyda’r gwynt tu ôl i’r tîm cartref yn yr hanner cyntaf, wnaethant y fwyaf o’r amser i allu ymosod ar amddiffynwyr Penarth. Llwyddwyd i ad-ennill y bel o’u pas canol cyntaf gan gapten Sara Patterson a wnaeth osod y stamp fod Emlyn am ddangos ei sgiliau cyflymder ac ymosod.

Cafwyd chwarae cryf ar yr asgell dde drwy waith Rosie Hughes a Sioned Fflur gan eto llwyddo i ddefnyddio eu cyflymder i gyrraedd y cylch ymosodol. Llwyddodd Enfys Davies i gael cwpwl o geisiadau ar y gôl, ond yn dilyn gweld gwaith y gôl-geidwad y tro diwethaf roedd yn amlwg fod angen ffordd unigryw i roi’r bel yng nghefn y rhwyd y tro yma.

Ar rhai adegau llwyddodd Penarth i dorri drwy’r canol cae gan roi pwysau ar amddiffynwyr Sioned Davies, Ellie Lloyd, Ffion Davies ac Elen Hill. Roedd eu taclau cryf a chadarn wedi arbed y bel rhag cyrraedd y cylch gan lwyddo i ryddhau’r bel nol i ffyn Emlyn.

Yn dilyn cyfnodau o ymosod cryf, Mel Williams wnaeth lwyddo i ychwanegu i’r sgôr gyntaf gan roi ychydig o hyder i’r tîm cartref. Yn fuan ar ôl, llwyddwyd i ennill cornel gosb, ond y dilyniant heb fynd yn ei ffordd y tro yma. Gan ad-ennill y bel ar yr asgell dde, llwyddodd Heledd-Mai Lloyd i godi’r bel dros y gôl-geidwad gan ddod a’r sgôr i 2-0 yn mynd mewn i hanner amser.

Roedd gan Emlyn waith caled o’u blaenau yn yr ail hanner i gynnal y sgôr, ac y tro yma yn erbyn y gwynt. Daeth gwaith cryf o asgellwyr Lisa Hughes, Carys Owen ac Alaw Elisa gan wneud gwagle yn rheolaidd a chysylltu’n gryf gyda’r ymosodwyr.

Ddaeth cwpwl o anafiadau ar y ddau dîm yn ystod yr ail hanner gan olygu i chwaraewyr i chwarae mewn safleoedd gwahanol, ond nid oedd hyn yn peri gofid i Gastell Newydd Emlyn. Dangoswyd Lois Davies ei sgiliau cryf o amddiffyn gan ddyfalbarhau i ennill y bel, gan wneud swydd Elin Williams yn y gôl yn un hawdd.

Flo Plant oedd yn serenni yn y rheng flaen yn ystod yr ail hanner gan wthio’n gryf i gyrraedd y cylch ymosodol dro ar ôl tro. O ganlyniad, Flo wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm. Parhawyd y sgôr yn 2-0 wrth i’r chwiban olaf ganu.

Hoffai’r tîm ddiolch i T. I Davies a Y Goleudy am noddi’r gêm. Bydd y menywod yn chwarae yng Nghrymych unwaith eto penwythnos nesaf yn erbyn trydydd tîm Prifysgol Caerdydd.