Colli’n agos i dîm cryf Rhondda

Brwydr heriol i dîm hoci Castell Newydd Emlyn

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Teithiwyd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Ysgol Uwchradd Hawthorn ym Mhontypridd ar gyfer ei ail ymweliad a thîm hoci cyntaf Rhondda. Gyda sgwad o 11, roedd y menywod yn tybio bydd y 70 munud nesaf am fod yn un heriol.

Dechreuwyd Emlyn gyda’r pas gyntaf o’r canol, ac yn syth wedi ymosod mewn niferoedd yn erbyn amddiffynwyr y tîm cartref. Roedd gan Rhondda cwpwl o chwaraewyr talentog oedd yn gallu taro’r bel yn galed a chuddiedig a oedd yn taflu gallu’r menywod i ddarllen y gêm, ond roedd Alaw Elisa wedi llwyddo i ryng-gipio’r bel a dilyn chwaraewyr ar sawl adeg i ail-ennill y meddiant.

Darganfuwyd Alaw Enfys Davies a oedd wedi cael ei adael yn rhydd, er mwyn dechrau’r ymosod gyda’r capten Sara Patterson. Gyda chwpwl o basiau rhyngddynt, roeddent yn yr hanner cylch ymosodol ble darodd Enfys y bel i gornel dde y gôl er mwyn hawlio gôl cyntaf y gêm.

Brwydrodd Rhondda nol yn galed yn erbyn amddiffynwyr Emlyn, ond arhoswyd Ellie Lloyd yn gryf fel arfer er mwyn arbed y bel rhag cyrraedd y cylch. Roedd yr is-gapten Sioned Davies ac Amy Heighton-Purnell bob ochr i Lloyd hefyd wedi gweithio’n arbennig drwy daclo a rhyng-gipio’r bel cyn eu rhyddhau i’r canolwyr.

Gweithiwyd Efa Jones a Mel Williams yn galed i fwydo’r bel i’r ymosodwyr a gweithio’n ddi-stop i ddilyn ei chwaraewyr er mwyn lleihau ei siawns o ymosod.

Llwyddodd Patterson i ryng-gipio’r bel ddwywaith o basiau hir yr amddiffynwyr, a oedd yn galluogi ymosod cryf yn cynnwys Flo Plant ac Izzy Yates ar y chwith. Enillodd Yates cornel gosb, ond yn anffodus heb lwyddo i sgorio.

Gyda munudau i fynd cyn y chwiban am hanner amser, enillodd Rhondda bas rydd tu allan i’w cylch ymosodol, ble gafodd y bel ei daro tuag at droed un o chwaraewyr Emlyn. Wrth addasu i’r anaf, cymerodd Rhondda’r bel yn gyflym a tharo’r bel o dop y cylch i mewn i’r gôl, gan ddod a’r sgôr yn hafal.

Roedd Emlyn yn gwybod fod ganddynt hanner anodd o’u blaenau er mwyn cymryd y fuddugoliaeth. Newidiodd Rhondda ei ffurfiad ychydig a oedd yn golygu fod ganddynt fwy o rifau yn ymosod tuag at y gol. Perfformiodd Angharad Jenkins safiad ar ôl safiad o wahanol fathau o streiciau, a pharhaodd y triawd amddiffynnol i ledu’r bel i’r asgell. Cafodd Plant sawl rhediad i lawr yr asgell chwith drwy ennill tir a cheisio cyrraedd y cylch ymosodol.

Gyda 10 munud i fynd, roedd Emlyn yn dechrau blino o ganlyniad o beidio cael eilyddion, ble wnaeth Rhondda gymryd mantais o hyn. Yn y ddwy funud ddiwethaf, llwyddodd Rhondda i daro’r bel i gefn y gôl gan hawlio’r tri phwynt, 2-1 i’r tîm cartref. Angharad Jenkins wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm am yr ail wythnos yn olynol. Does dim gem gan y menywod penwythnos nesaf, ond maent nôl yng Nghrymych ar yr 24ain o Chwefror i herio’r tîm sydd ar frig y gynghrair, Dowlais.