Ar ôl tair wythnos heb gêm o ganlyniad i ddau benwythnos rhydd ac un o’r timoedd arall yn rhoi’r gêm iddynt, roedd menywod Castell Newydd Emlyn nol ar yr hewl yn gynnar bore dydd Sadwrn i herio Cymric yng Nghaerdydd.
Roedd y pum munud cyntaf wedi profi amddiffyn Emlyn wrth i Cymric ymosod yn gryf ac yn gyflym, a llwyddwyd i roi un yng nghefn y gol. Gyda’i momentwm yn parhau, wnaethant lwyddo i agor y sgôr i 2-0 o fewn y deng munud cyntaf.
Roedd y menywod wedi adnabod fod angen i rywbeth newid os oeddent am ddod ’nôl mewn i’r gêm, felly roedd yn rhaid i bawb weithio’n galetach i sicrhau fod y bel yn parhau yn ei meddiant nhw er mwyn ymosod gyda bwriad.
Dechreuodd hyn gyda gwaith Rosie Hughes a Sioned Fflur ar yr asgell dde, gan deithio’n gyflym o gwmpas canolwyr a rheng ôl Cymric. Llwyddodd Sioned i basio i Izzy Yates oedd yn y cylch a darodd y bel i gornel chwith y gôl i roi Emlyn nol yn y gêm.
Gyda’r menywod yn dechrau ymlacio mewn i’r gêm, roedd Lois Davies a Mel Williams yn gweithio’n dda i atal ymosod y tîm cartref rhag dod trwyddo’r canol, gan ei gorfodi i fynd i’r asgell. Dilynodd Amy Purnell ei chwaraewr drwy gydol y cyfnod ac ail-ennill y meddiant gan gysylltu’n dda gyda’i nith, Emily Barber ar yr asgell chwith. Gyda chroesiad gan Barber, penodwyd cornel gosb i Gastell Newydd Emlyn gyda Sioned yn camu i fyny i ddechrau’r dilyniant. Gyda phas cryf i frig y cylch at Williams, llwyddodd i daro’r bel tuag at gornel chwith y gôl a Sioned wnaeth lwyddo i gael y bel yng nghefn y gôl i ddod ’nôl a’r sgôr yn gyfartal ar yr hanner amser.
Gydag ail hanner hir o’u blaenau, roedd Emlyn yn benderfynol o’r 3 pwynt, a oedd yn golygu fod angen i bawb wybod beth oedd y dasg o’u blaenau. Llwyddodd Enfys Davies a Sara Patterson i ennill metrau drwy ymosod yn syth o’r bas gyntaf, ond rhyng-gipiwyd y bel gan amddiffyn Cymric gan ddechrau wrthymosodiad.
Perfformiodd Ellie Lloyd, Sioned Davies a Caryl-Haf Lloyd taclau cryf tu fewn i’r hanner cylch er mwyn lleihau’r ceisiadau ar y gôl-geidwad Elin Williams, a chliriwyd i’r canolwyr ar sawl adeg. Llwyddodd Cymric i ennill cwpwl o gorneli gosb a rhaid rhoi clod i Lloyd ac Elin am ymateb yn gadarn i’r ceisiadau i gadw’r sgôr yn hafal.
Safwyd Elen Hill ei thir yng nghanol cae, yn adennill y bel ar sawl adeg ac yn cario’n gryf drwy ymosod a chysylltu’n dda gyda’r blaenwr Heledd-Mai Lloyd. Roedd Carys Owen yn ymateb yn gyflym i newidiadau mewn meddiant, gan gysylltu’n dda gyda Patterson am rediad lawr yr asgell chwith, a llwyddodd i ennill cornel gosb. Patterson oedd yn camu i’r marc y tro hyn gan basio i Williams ar frig y cylch, a gyda fflic i’r cornel dop y gôl, ddaeth Emlyn nôl yn y blaen.
Yn dilyn digwyddiadau anffodus, roedd Emlyn lawr i 9 person ar y cae, yn dilyn dau chwaraewr yn derbyn cardiau gwyrdd a melyn, gan olygu fod y 5 munud olaf o’r gêm yn mynd i fod yn heriol. Gydag ymosodiad cyflym gan Cymric, ac er lwyddodd amddiffynwyr Emlyn i stopio’r ceisiadau cyntaf at gol, roedd y bel wedi llwyddo i groesi’r llinell i ddod a’r sgôr nol yn hafal. Gyda 10 eiliad ar ol ar y cloc, nid oedd hyn yn ddigon i Emlyn geisio mynd am gol arall.
Yn derbyn pwynt am gêm gyfartal, golygir bydd Emlyn yn eistedd yn drydydd yn y gynghrair gyda phedwar gem i fynd tan ddiwedd y tymor. Dyfarnwyd chwaraewr y gêm i Ellie Lloyd am ei thaclo cryf a chyson yn y cefn.
Mae’r menywod yn chwarae adref yn erbyn Radnor yng Nghrymych am 13:30 dydd Sadwrn nesaf.