Y gwynt a’r glaw wnaeth ennill!

Castell Newydd Emlyn yn colli 2-3 yn erbyn Radnor

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Croesawyd clwb hoci Radnor i Grymych ddydd Sadwrn am ei ail ymweliad o’r tymor. Cynhaliwyd munud o dawelwch ar ddechrau’r gêm er cof am Llyr Davies, bachgen gyda sawl cysylltiad i’r clwb, ac mae meddyliau’r clwb i gyd gyda’i deulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn.

Gyda’r tywydd yn ei herbyn, roedd yn gystadleuaeth o bwy oedd yn gallu gweithio a rheoli’r bel mewn amodau gwlyb a gwyntog iawn. Dechreuodd y tîm cartref yn gryf o’u pas cyntaf, yn ymosod mewn niferoedd ac yn cyrraedd y cylch ymosodol. Darganfuwyd Emlyn yn fuan pwy oedd chwaraewyr dylanwadol Radnor, a olygir fod angen iddynt addasu i farcio’r chwaraewyr allan o’r gêm gymaint â phosib. Cymerwyd hyn amser i addasu, gan adael i Radnor ymosod a chynnal y meddiant.

Arweiniwyd y dasg o farcio y ddau chwaraewr gan Elen Hill, Alaw Elisa a Mel Williams, gan olygu fod ei lefelau ffitrwydd yn cael ei brofi. Safwyd Ellie Lloyd, Sioned Davies, Lois Davies a Caryl-Haf Lloyd yn gadarn yn y cefn a llwyddwyd i glirio’r bel i’r canolwyr ar sawl adeg.

Llwyddodd Radnor i adennill y meddiant gan arwain at gol gyntaf y gêm ac ar y droed flaen. Gyda momentwm tu ôl iddynt, parhawyd Radnor i wthio ac ymosod yn erbyn amddiffynwyr Emlyn a llwyddwyd i ddarganfod troed yn y cylch gan arwain at gornel gosb. Amddiffynnwyd y tîm cartref y dilyniant cyntaf, ond llwyddodd ymosodwr Radnor i roi’r bel yng nghefn y gôl ar yr ymatebiad. 0-2 hanner amser.

Gydag ail hanner mawr o’u blaen, roedd angen i Emlyn ffocysu er mwyn ceisio ddod ’nôl mewn i’r gêm. Roedd Rosie Hughes a Sioned Fflur wedi serenni ar yr asgell dde, gan ddefnyddio eu cyflymder ond yn gweld yn her i fynd o gwmpas yr amddiffynnwr olaf. Drwy newid y chwarae i’r chwith, cafodd Sara Patterson gyfle i redeg ac ymosod gydag Enfys Davies. Mewn sefyllfa 2v1, daw’r pas o Patterson i Davies ac i gefn y gol.

Roedd Emlyn yn awyddus i sgorio un arall, ac eto gan ddefnyddio cyflymder ac ystwythder yr asgellwyr, roedd Efa Jones wedi llwyddo i ddarganfod Williams yn y cylch a wnaeth groesi’r bel i mewn. Ni lwyddodd Patterson i reoli’r bel o ganlyniad i’w pŵer, ond lwyddodd Enfys i ymateb yn gyflym ar y ffon gefn i daro’r bel i mewn i’r gôl i ddod ’nôl a’r sgôr yn hafal.

Gyda phymtheg munud i fynd, roedd Carys Owen a Flo Plant yn serenni gan ymosod lawr y ddwy sianel ac ennill metrau tuag at y gol. Eto, ar y gwrthymosodiad, wnaeth canolwyr Radnor chwarae ei gem ei hun gan ymosod lawr y canol ar gyfer siawns 1v1 yn erbyn Angharad Jenkins. Aeth Jenkins lawr i’r llawr mewn ymgais i glirio’r bel yn bwerus. Wnaeth Radnor barhau i ymosod, gan wneud i amddiffynwyr Emlyn weithio’n ddiflino. Gyda dyfalbarhad parhaus, llwyddwyd iddynt sgorio gôl arall i fynd ar y blaen eto.

Wnaeth Izzy Yates ymdrech arbennig yng nghanol cae yn ystod yr adeg yma, yn gorfodi i’r gwrthwynebwyr i wneud camgymeriadau. Yn anffodus, nid oedd digon o amser i Emlyn sgorio gôl arall, gan olygu colli o 2-3. Dyfarnwyd chwaraewr y gêm i Ellie Lloyd, yr ail wythnos yn ofynnol.

Hoffai’r menywod ddiolch i JE Rees, Dairy Partners a Castle Architectural Deisgn am noddi’r gêm. Mae’r tîm yn chwarae i ffwrdd yn Aberhonddu dydd Sadwrn nesaf mewn ymgais i ennill y tair gem olaf o’r tymor.