Dydd Gweddi’r Byd Ardal Pencader

PENCADER

gan Haulwen LEWIS

DYDD GWEDDI’R BYD

Cynhelir oedfaon ‘Dydd gweddi’r Byd” yn flynyddol ar Sul cyntaf mis Mawrth a oedd eleni yn disgyn ar Fawrth 1af.  Hyd ag at tua dwy flynedd yn ôl dim ond y gwragedd fyddai yn dod ynghyd i gynnal y cyrddau ond erbyn hyn mae croeso i’r dynion ymuno hefyd.  Bydd gwledydd y byd yn cymrid eu tro i baratoi y gwasanaeth ac eleni fe’i paratowyd gan drigolion Cristnogol Palesteina.

Mae y rhagarweiniad yn llyfr y gwasanaeth yn darllen

Wrth inni gymryd rhan yn y gwasanaeth hwn, rydym yn rhan o don enfawr o weddi mewn ieithoedd brodorol o gwmpas y byd, gan ddechrau wrth i’r haul godi dros Samoa a pharhau wrth iddo gwmpasu’r ddaear a gorffen dros y Môr Tawel wrth i’r haul fachlud dros Samoa Americanaidd.  Bydd pobl mewn mwy na 146 o wledydd ac ynysoedd o gwmpas y byd yn ymuno i weddïo dros pobl Palesteina a gyda nhw.”

“Mae yn wasanaeth o addoliad, sydd yn rhannu storïau sy’n darlunio profiad tair gwraig Gristnogol o Balesteina, pob un o genhedlaeth wahanol, sy’n tystio i rym goddef ein gilydd mewn cariad.

Wrth wrando ar y storïau, anogir pawb i oddef eu gilydd mewn cariad er gwaethaf anawsterau a gwahaniaethau, i uno mewn gweddi am atebion cyfiawn a chytûn a fyddai’n dod a diwedd i ddioddefaint pobl, ac i ymrwymo i deithio gyda’n gilydd i sicrhau diogelwch a heddwch i holl bobl y byd.”

ARDAL PENCADER

Daeth cynrychiolwyr o Gapel New Inn, Tabernacl Pencader, Eglwys Llanfihangel ar arth, ac Eglwys Capel Dewi ynghyd yn Eglwys Capel Dewi i gynnal y gwasanaeth, gyda phob un yn cymrid rhan.  Mrs Meg Parry oedd yr organyddes.  Yr arweinwyr oedd Parchedig Bonnie Timothy a Mrs Gwenda Evans, Capel Dewi. Ar ddiwedd y gwasanaeth cafwyd cwpanaid hyfryd o de a chacennau oedd wedi eu baratoi gan wragedd Capel Dewi.  Diolchwyd i aelodau Capel Dewi am y croeso ac i Gwenda Evans am drefnu.