Colled yn y gêm cyntaf o ddwy yn erbyn Pen-y-bont

Un gem i fynd tan gwybod pwy fydd yn cael dyrchafiad y tymor nesaf.

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Ar ôl ennill 2-4 i ffwrdd yn erbyn Aberhonddu ar y 23ain o Fawrth, roedd tîm hoci Castell Newydd Emlyn nol ar yr hewl i wynebu Pen-y-bont ddydd Sadwrn yn ei gem gyntaf o’r tymor.

Dechreuodd Emlyn yn gryf, gan roi pwysau ar ganolwyr Pen-y-bont o’r cychwyn cyntaf. Cafodd Elen Hill y dasg o farcio ei chwaraewr Cymru yn y canol, gan geisio lleihau ei arweiniad tuag at y gol. Roedd Ffion Davies a Lois Davies wedi gwthio’n gyson i gadw’r bel allan o’r cylch ymosodol, ac wedi llwyddo i glirio’r bel i lawr yr asgell ar sawl adeg.

Daw ymosodiad i lawr yr asgell chwith dan arweiniad Alaw Elisa a’r capten Sara Patterson, gan roi mantais i Emlyn am gyfle ar gol. O groesiad Patterson i Enfys Davies, daw’r saethiad cyntaf ond yn cwympo’n llydan o’r gol. Sylwodd Pen-y-bont fod y gwrthwynebwyr yn hoffi chwarae i lawr yr asgell, gan olygu fod ganddyn nhw lawer o le i lawr y canol i ymosod. Ellie Lloyd oedd y cyntaf i berfformio’r dacl bwysig er mwyn osgoi’r cyfleoedd ar gôl-geidwad Elin Williams. O’r fantais o gael llawer o ymosodwyr yn y cylch, llwyddodd Pen-y-bont i chwarae’r bel o gwmpas a tharo’r bel i gefn y gol.

Llwyddodd Castell Newydd Emlyn i ymosod yn gryf ar sawl adeg arall yn yr hanner gyntaf, gan gynnwys Flo Plant yn driblo’n gryf i mewn i’r cylch ymosodol gan ennill cornel gosb, a phas o Enfys Davies i Heledd-Mai Lloyd ar gyfer sefyllfa 1v1 yn erbyn y gôl-geidwad, ond heb lwyddo i sgorio. Roedd Pen-y-bont yn ysu i ddefnyddio ei momentwm o’i gol cynaf, a lwyddwyd i roi’r ail yn y gôl gan fynd a’r sgôr i 2-0 ar hanner amser.

Gyda’r ail hanner o’u blaenau, roedd Emlyn yn benderfynol o sgorio goleuaf un. Defnyddiodd Rosie Hughes ac Efa Jones eu cyflymder ar yr asgell chwith a dde, gan ennill metrau tuag at y gôl a chysylltu’n dda gyda’r llinell flaen. Drwy gwrthymosodiad arall, enillodd Pen-y-bont cornel gosb a lwyddwyd i’w sgorio hefyd gan fynd a’r sgôr i 3-0.

Ar ôl cwpwl o funudau o amddiffyn yn gadarn, daw tro Emlyn am gwrthymosodiad. Teithiwyd y bel drwy’r canolwyr i Enfys, a basiodd i Patterson o flaen y gôl, a llwyddwyd i roi’r bel yng nghornel gwaelod dde y gol, 3-1.

Darganfyddwyd Sioned Fflur ei tan ar yr asgell dde yn yr ail hanner, gan ddefnyddio ei chyflymder i ennill y ras yn erbyn ei amddiffynnwr am y peli trwyddo o Hughes a Jones.

Roedd Plant ar dan hefyd gyda’i phenderfynoldeb i ennill y fantais, gan eto ennill cornel gosb arall. Roedd Mel Williams wedi colli allan o drwch blewyn o’i gôl hi gan i’r bel fwrw’r bar ar frig y gôl, a ni lwyddwyd i ymateb digon cyflym am yr ail gynnig am gol. Gyda phum munud i fynd, darganfuwyd Pen-y-bont ei pedwerydd gol gan godi’r bel dros amddiffynwyr Emlyn, i frig y gol.

Sara Patterson wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm. O ganlyniad i golli ei gem gyntaf o ddwy yn erbyn Pen-y-bont, mae’n golygu bydd pwysau mawr ar dîm hoci Emlyn i ennill y gêm penwythnos nesaf os ydynt am gael dyrchafiad i gynghrair Premier 2 y tymor nesaf. Bydd y menywod yn chwarae am 11:00 yng Nghrymych, a dyma gêm olaf y tymor 2023/24, felly dewch i gefnogi!

Dweud eich dweud