Dechrau anodd ond addawol gan Fenywod Hoci Emlyn

Castell Newydd Emlyn v Trydydd Tîm Abertawe

gan Sioned Davies

Ar ôl saib mawr dros yr Haf, roedd tîm hoci Castell Newydd Emlyn nôl yn chwarae adref yng Nghrymych, gan groesawi trydydd tîm Abertawe am gêm gyntaf y tymor. Roedd y tîm yn awyddus i gipio’r fuddugoliaeth gyntaf.

Abertawe oedd yn dechrau’r gêm, yn dangos cyflymder a dwysedd uchel o’r chwiban gyntaf. Cafodd y canolwyr dasg a hanner yn dilyn ac ail ennill y meddiant, ond roedd Rosie Hughes, Mel Williams, Alaw Elisa, Flo Plant ac Izzy Yates wedi llwyddo i arafu eu chwarae ar sawl adeg.

Roedd yr amddiffynwyr, fel arfer wedi perfformio taclau cryf yn erbyn gwaith ffon greadigol Abertawe, ac roedd rhaid rhoi clod i Lois Davies, Ellie Lloyd, Ffion Davies, Caryl-Haf Lloyd a Lowri Llewellyn. Roedd peli drwodd yn cyrraedd yr ymosodwyr ac roeddd Abertawe wedi llwyddo ennill y gôl gyntaf o’r gêm. Daw’r chwiban hanner amser yn gyflym wedi’r gôl gyntaf.

Roedd yn rhaid i Emlyn godi’r dwysedd yn yr ail hanner os oeddent am aros yn y gêm, a ddaeth y dwysedd yn y llinell flaen. Daw pasio gwych rhwng Enfys Davies a Sara Patterson o’r bas cyntaf, a oedd yn golygu ennill tir tuag at y cylch ymosodol. Gyda chroesiad o Mel Williams, llwyddodd Enfys Davies i daro’r bêl mewn i gornel y gôl er mwyn dod a’r sgôr nol yn gyfartal.

Roedd y tîm oddi cartref wedi cadw’r momentwm ac wedi llwyddo sgorio ail a’r trydedd gôl yn sydyn ar ôl ei gilydd. Roedd gan Emlyn waith caled o’u blaenau I gadw’r sgôr yn agos, daeth gwaith cryf o’r amddifynnwyr a’r asgellwyr gan wneud gwagle yn rheolaidd a chysylltu’n gryf gyda’r ymosodwyr Emily Barber, Sara Patterson, Enfys Davies a Sioned Fflur a oedd yn gwneud y gorau o’r gwagle. Gyda thua deg munud yn weddill o’r gêm, sgoriodd Abertawe eu gôl olaf  i wneud y sgôr yn 1-4.

Cafwyd chwarae cryf ar yr asgell dde drwy waith Flo Plant a Sioned Davies gan eto llwyddo i ddefnyddio eu cyflymder i gyrraedd y cylch ymosodol. O ganlyniad llwyddodd Enfys Davies i gael yr ail gôl drwy godi’r bêl dros ben y gôl-geidwad gan ddod â’r sgôr i 2-4. Yn sydyn iawn, daeth y gêm I ben yn golygu llwyddodd y tîm ifanc o Abertawe gymryd y tri phwynt.

Flo Plant oedd yn serenni yng nghanol y cae trwy gydol y gêm gan redeg yn gryf lawr yr asgell dde I gyrraedd y cylch ymosodol dro ar ôl tro. O ganlyniad i hyn, Flo wnaeth dderbyn chwaraewraig y gêm. Yn ogystal â hyn, buodd Elin Williams yn brysur iawn yn y gôl yn gwneud safiadau arbennig, gwnaeth hyn argraff ar y capteiniaid ac wedi penderfynu rhoi eu chwaraewraig y gêm i’r gôl-geidwad.

Hoffai’r tîm ddiolch I Bois y Mowo a Llaeth Tyhen am noddi’r gêm. Bydd y menywod yn chwarae bant penwythnos nesaf yn erbyn Meddygon Caerdydd.

Dweud eich dweud