Croesawodd tîm hoci menywod Castell Newydd Emlyn tîm Kington I Grymych dros y penwythnos ar gyfer ail gêm y tymor. Yn dilyn colli’r gêm gyntaf, roedd y menywod yn awyddus i gael y pwyntiau tro yma.
Dechreuodd y tîm cartref bant yn gryf iawn gyda sawl rhediad lawr y ddwy asgell gan Sara Patterson a Sioned Davies yn dilyn gwaith da gan ein chwaraewyr canol cae Rosie Hughes, Mel Williams, Izzy Yates ac Alaw Elisa. O ganlyniad i hyn, daw amser i Emlyn sgorio eu gôl gyntaf o’r gêm. Sara Patterson sgoriwyd y gôl yn dilyn pasio gwych rhwng Mel Williams, Sioned Davies ac Enfys Davies.
Perfformiodd Ellie Lloyd, Ffion Davies, Lois Davies, Lowri Llewellyn a Caryl-Haf Lloyd taclau cryf tu fewn i’r hanner cylch er mwyn lleihau’r ceisiadau ar y gôl-geidwad Elin Williams, a safiwyd sawl pêl rhag mynd heibio. Llwyddodd Kington sgorio gôl a ddaeth y sgôr yn gyfartal, roedd yn rhaid i Fenywod Emlyn gadw’r momentwm ar gyfer yr ail hanner.
Dechreuwyd yr ail hanner yn gryf iawn gyda’r ddau dîm, roedd yr amddifynnwyr yn cysylltu’n dda gyda’r canol cae, gyda Mel Williams a Lois Davies yn bwydo’r bêl allan at yr asgell. Defnyddiodd Sara Patterson eu cyflymder lawr yr asgell chwith gan roi sefyllfa 2v1 yn erbyn y gôl-geidwad, roedd Sioned Davies wedi colli allan o drwch blewyn o’i gôl.
Roedd canol cae Emlyn wedi llwyddo yn dda i arafu chwarae Kington ar sawl adeg a oedd yn gwneud gwaith yr amddifynnwyr ychydig yn haws. Roedd Emlyn wedi gweithio’n hynod o galed i gadw’r sgôr yn gyfartal. Llwyddodd Menywod Emlyn mewn gêm anodd i gerdded bant o’r cae gyda phwynt.
Rosie Hughes oedd yn serenni yng nghanol y cae trwy gydol y gêm gan redeg yn gryf lawr yr asgell dde i gyrraedd y cylch ymosodol dro ar ôl tro. O ganlyniad i hyn, Rosie wnaeth dderbyn chwaraewraig y gêm. Chwaraeodd Emily Barber yn arbennig o dda gan ennill tir tuag at y gôl sawl gwaith, penderfynodd y capteiniaid mai Emily oedd yn haeddu eu chwaraewraig y gêm.
Hoffai’r tîm ddiolch i Parc Carafanio Gilfach am noddi’r gêm. Bydd y menywod yn chwarae bant penwythnos nesaf yn erbyn Penfro.