Colli’n agos i dîm cryf Penfro

Penfro 3-2 CastellNewydd Emlyn

gan Sioned Davies

Teithiwyd tîm hoci menywod Castell Newydd Emlyn i Hwlffordd ar gyfer ein gêm oddi cartref cyntaf o’r tymor. O chwarae Penfro mewn twrnameintiau ar ddechrau’t tymor, roedd Emlyn yn barod am yr her o’i blaenau.

Dechreuwyd Emlyn gyda’r pas gyntaf o’r canol, ac yn syth wedi ymosod mewn niferoedd yn erbyn amddiffynwyr y tîm cartref. Roedd gan Penfro cwpwl o chwaraewyr talentog oedd yn gallu taro’r bel yn galed a chuddiedig a oedd yn taflu gallu’r menywod i ddarllen y gêm, ond roedd Rosie Hughes wedi llwyddo i ryng-gipio’r bel a phasio’r bêl mewn i’r gwagle gydag Enfys Davies yn taro’r bêl mewn i gornel y gôl.

Brwydrodd Penfro nôl yn galed yn erbyn yr amddiffynwyr, roedd Ellie Lloyd, Ffion Davies, Lois Davies, Lowri Hubbard a Jacquie wedi stopio sawl pêl rhag fynd heibio’r gôl geidwad. Ond, roedd gwaith talentog Penfro ar y ffon yn llwyddiannus a sgoriwyd eu gôl cyntaf. Dilyn yn gyflym, sgoriwyd Penfro eu ail gôl o’r gêm, roedd yn troi mewn i gêm gyffrous iawn.

Daw gwaith pert o Mel Williams yn dilyn cornel hir, gan basio’r bêl i Enfys a chroesodd mewn i’r cylch ymosodol gan ddarganfod Sara Patterson a wnaeth fflicio’r bêl mewn i gornel y gôl I wneud y sgôr yn 2-2.

Gyda munudau I fynd tan chwiban hanner amser, llwyddodd Penfro I sgorio eu trydydd gôl yn dilyn pasio a rhediadau gwych.

Roedd Emlyn yn gwybod fod ganddynt hanner anodd o’u blaenau er mwyn cymryd y fuddugoliaeth. Perfformiodd Angharad Jenkins safiad ar ôl safiad o wahanol fathau o streiciau, a pharhaodd y triawd amddiffynnol i ledu’r bel i’r asgell ble oedd Flo Plant, Rosie Hughes, Amy Heighton ac Izzy Yates.

Roedd y canolwyr yn cysylltu’n dda gyda’r blaenwyr sef Enfys Davies, Sara Patterson, Sioned Davies ac Emily Barber, roedd y blaenwyr yn gwneud y rhediadau ac yn ceisio cael rhywbeth bob tro. Mi wnaeth y ddwy dîm brwydro tan y chwiban olaf, arhosodd y sgôr yn 3-2 i Benfro. Roedd hi’n gêm a hanner.

Angharad Jenkins oedd yn serenni yn y gôl trwy gydol y gêm gan wneud safiadau arbennig. O ganlyniad i hyn, Angharad wnaeth dderbyn chwaraewraig y gêm. Yn ogystal a hyn, buodd Ellie Lloyd yn serenni yng nghefn y cae gan wneud taclau arbennig i atal sawl gôl, gwnaeth hyn argraff ar y capteiniaid ac wedi penderfynu rhoi eu chwaraewraig y gêm i Ellie.

Bydd y menywod yn chwarae adref penwythnos nesaf yn erbyn Caerfyrddin yng Nghanolfan Hamdden Crymych am 11:30yb.

Dweud eich dweud