Colled anodd I Dîm Menywod Hoci Castell Newydd Emlyn

Castell Newydd Emlyn 6-0 Caerfyrddin

gan Sioned Davies

Croesawodd tîm hoci merched Castellnewydd Emlyn Gaerfyrddin i Grymych dros y penwythnos ar gyfer pedwaredd gêm y tymor. Ar ôl dechrau caled i’r tymor, roedd y merched yn awyddus i gerdded i ffwrdd gyda’r pwyntiau. Caerfyrddin sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd, felly roedd Merched Emlyn yn gwybod bod gêm anodd o’u blaenau.

Dechreuodd Caerfyrddin yn gryf gan daro’r bêl yn ôl ac ymlaen mewn trionglau pert, ond cadwodd y merched ati a rhedeg ar ôl bob pêl. Gweithiodd Emlyn yn galed iawn i arafu gêm Caerfyrddin, ond torrwyd chwaraewyr Caerfyrddin drwy ganol y cae gan roi pwysau ar amddiffynwyr Ellie Lloyd, Ffion Sara, Lois Davies, Caryl-Haf Lloyd, Jacquie Maycock a’r gôl-geidwad Angharad Jenkins ac ar sawl tro llwyddwyd i glirio’r bêl allan. Ond gydag ymateb cyflym gan Caerfyrddin i saethu, roedd y bel wedi llwyddo i gyrraedd cefn y gôl tair gwaith yn yr hanner cyntaf.

Yn yr hanner cyntaf, llwyddodd yr asgellwyr i ddangos ei doniau gyda Sioned Fflur Davies , Sara Patterson ac Emily Barber yn llwyddo i gyrraedd yr hanner cylch ar gwpwl o adegau. Gyda chefnogaeth Enfys Davies, Mel Williams, Rosie Hughes, Flo Plant, Izzy Yayes ac Alaw Elisa yn brwydro i gadw’r bel yn yr hanner ymosodol ond yn methu uwchraddio’r drosedd i gornel gosb.

Wrth ddechrau’r ail hanner, cafodd Caerfyrddjn gyfnodau o ymosod yn erbyn amddiffynwyr Emlyn gan arwain at y cefnwyr i berfformio taclau cryf i osgoi’r bel i fynd i’w mynd heibio. Ond, llwyddodd Caerfyrddin i ennill gôl ar ôl gôl ac roedd pennau Merched Emlyn yn dechrau mynd lawr.

Er roedd Emlyn yn brwydro tan y diwedd, nid yn ffordd y tîm cartref aeth hi heddiw. Y sgôr yn diwedd oedd 0-6 i’r tîm talentog o Gaerfyrddin. Ellie Lloyd wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm, a oedd yn llawn haeddiannol am y nifer fawr o daclau cryf I atal sawl gôl I fynd mewn. Yn ogystal, credodd y capteiniaid fod Lois Davies wedi serenni yn y gêm, wrth berfformio’n arbennig yng nghanol y cae.

Hoffai’r tîm ddiolch I Patterson Transport a Phil Edwards am noddi’r gêm heddiw. Bydd y merched yn mynd ar yr hewl penwythnos nesaf I herio tîm ifanc Meddygion Caerdydd am 12:30yh.

Dweud eich dweud