Her Ddarllen Tachwedd – i oedolion yn unig!

Faint o lyfrau fyddwch chi’n eu darllen?

Lesley Parker
gan Lesley Parker

Pob haf, mae Llyfrgelloedd dros Cymru yn annog plant i ddarllen cymaint o lyfrau â phosib, gyda sticeri, llyfrnodau, a thystysgrifau yn wobrau.

Ond, beth am yr oedolion?  Mae rhai o’n gwirfoddolwyr a’n darllenwyr selog yn Llyfrgell Llandysul yn gofyn “Pam na gawn ni her hefyd?”  Wel, dyma’r cyfle!

Mae Grŵp Cefnogwyr Llyfrgell Llandysul yn gyffro i gyd gyda’r her a’r cynnig arbennig i oedolion y Tachwedd hwn.

Darllenwch gymaint o lyfrau ag y gallwch drwy eu benthyg o Lyfrgell Llandysul.
Rydyn ni hefyd yn cynnig cystadleuaeth ar wahân i’n gwirfoddolwyr gwych!

Mae’r llyfrgrell yn dal miloedd o lyfrau, rhai Cymraeg a rhai Saesneg, yn rhychwantu genres o’r dirgelwch i’r rhamantus, arswyd i wyddonias, barddoniaeth i deithio.  Mae rhywbeth i bawb!

Beth yw’r wobr?  Bocs o siocledi hyfryd i’r darllenwyr gorau!

Mae Llyfrgell Llandysul ar agor bob:

Dydd Mawrth: 10am – 4pm

Dydd Iau:  10am – 1pm

Dydd Sadwrn:  10am – 12pm

Rheolau

  • Gallwch fenthyg hyd at 20 llyfr ar y tro dros gyfnod o bedair wythnos.
  • Dim ond llyfrau benthygwyd o Lyfrgell Llandysul yn ystod Tachwedd 2024 sy’n gymwys ar gyfer yr her.
  • Caiff llyfrau llafar a DVDs sy’n cael eu benthyg o’r llyfrgell eu cynnwys (nodwch bod ffi benthyg ynghlwm wrth yr eitemau hyn).
  • Nid yw e-lyfrau yn cael eu cynnwys yn yr her hwn gan nad oes modd i ni ddilyn trywydd eu benthyg.
  • Rhaid i’r rhai sy’n cymryd rhan fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷ

Felly, beth am gymryd rhan yn yr her a darganfod straeon ac awduron newydd ar y daith?

 

Llyfrgell Llandysul

Ers 2018, mae Llyfrgell Llandysul wedi ei gynnal gan Grŵp Cefnogwyr Llyfrgell Llandysul mewn partneriaeth â Llyfrgelloedd Ceredigion.  Golyga hyn mai nid un llyfrgell fechan yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr yw’r fenter ond mae’n rhan o deulu Llyfrgell Ceredigion ac mae’n cynnig yr un gwasanaethau ag unrhyw un o Lyfrgelloedd Ceredigion.

Dweud eich dweud