Teithiodd menywod hoci Castell Newydd Emlyn i’r brif ddinas ar gyfer eu gêm yn erbyn Meddygon Caerdydd. Yn dilyn colled anodd penwythnos diwethaf, roedd hi’n bwysig i gerdded bant o’r cae gyda’r pwyntiau y tro yma, ond gyda 11 o chwaraewyr roedd hyn yn her i’r menywod.
Dechreuodd y gêm gyda thempo uchel gan y ddau dîm, roedd y tîm ifanc o Gaerdydd yn hoff o chwarae trwy’r canol a oedd yn rhoi pwysau ar Ellie Lloyd, Rosie Hughes ac Izzy Yates. Yn dilyn sawl rhediadau a safiadau, llwyddodd y meddygon i sgorio tair gôl yn y chwarter awr cyntaf o’r gêm. Dechreuodd Emlyn gredu eu fod yn golled anodd arall, ond ar ddiwedd yr hanner amser, daw gwaith da o’r asgell chwith gan Amy Heighton ac Emily Barber gan arwain at saethiad arbennig â lwyddodd i daro cefn y gôl I wneud y sgôr yn 3-1 i Feddygon Caerdydd.
Roedd Emlyn yn barod amdani yr ail hanner, gweithiodd Lois Davies a Flo Plant yn arbennig o dda lawr yr asgell dde gan arwain i Flo ennill cornel gosb o ganlyind i Meddygon yn taclo’r ffordd anghywir. Roedd hyn yn gyfle gwych i fenywod Emlyn sgorio gyntaf yr ail hanner, ac yn wir fe sgoriodd Enfys Davies ar ôl pasio Sara Patterson a Sioned Davies. Yn gyflym, llwyddodd y Meddygon I sgorio gôl arall a wnaeth y sgôr yn 4-2, doedd y gêm ddim wedi gorffen eto.
Roedd y meddiant yn newid yn gyflym rhwng y ddau dîm yn aml, y tro yma troiodd Izzy Yates y meddiant a phasio i’r gwagle gyda Sioned Davies yn rhedeg o’r hanner ffordd gan lwyddo i sgorio yng nghornel y gôl. Roedd y sgôr yn agosau, yn fuan enillwyd gornel cosb arall, tro Sara Patterson oedd hi i fwrw’r pêl yn ganol awyr i gefn y rhwyd. Dangosodd y menywod gymeriad ac yn brwydro’n galed i ddarganfod gôl arall, rhyngipiwyd y bêl rhwng amddiffynwyr meddygon gan Sioned Davies eto o’r hanner ffordd ac wedi maeddu’r gôl-geidwad unwaith yn rhagor gan roi’r menywod yn y blaen.
Nid oedd meddygon Caerdydd wedi gwneud gweddill y gêm yn un hawdd, roedd amddifynnwyr a gôl-geidwad Emlyn wedi gweithio’n hynod o galed I glirio phob pêl allan i’r asgell. Clywodd menywod Emlyn y chwiban olaf yn canu, a neidio yn yr awyr yn wen o glust i glust gyda buddugoliaeth cyntaf haeddianol iawn o’r tymor. Y sgôr terfynol oedd 4-5 i dîm hoci menywod Castell Newydd Emlyn.
Derbyniodd Elin Williams chwaraewraig y gêm a oedd yn cwbwl haeddiannol yn dilyn perfformiad arbennig o dda. Yn ogystal, credodd y capteiniaid fod Izzy Yates a Sioned Davies wedi serenni trwy gydol y gêm wrth brwydro’n galed.
Bydd y menywod yn chwarae mewn pythefnos sef y 9fed o Dachwedd bant yn erbyn ail dîm Prifysgol Caerdydd.