Ysgol Sul Tabernacl Pencader

Cymanfa Bwnc

gan Haulwen LEWIS
Cymanfa Bwnc Gwyddgrug

Rhai o blant Ysgol Sul Tabernacl Pencader fu’n cymrid rhan Mewn CYmanfa Bwnc a gynhaliwyd yng Nghapel Gwyddgrug, gyda Betsan Jones, Einir George a Gwenan Owen, Haulwen Lewis a Chris Bolton

Ar Sul Hydref 27 cynhaliwyd Cymanfa bwnc yng nghapel Gwyddgrug.  Daeth cynrychiolaeth o eglwysi Gwyddgrug, Gwernogle a Tabernacl Pencader at eu gilydd i ddarllen ac i drafod dan arweiniad Chris Bolton.  Dechreuwyd gyda’r oedolion yn darllen am freuddwyd Joseff (Genesis 28), ac yna fe’u holwyd gan Chris. Allan o’r un llyfr daeth maes llafur y plant, sôn am Joseff a’i frodyr.  Darllenwyd yr adnodau gan y plant cyn i Chris eu holi hwythau. Bu’r plant yn canu tair emyn. Llywyddwyd y gwasanaeth gan Betsan Jones (Gwyddgrug), ac Einir George a Gwenan Owen oedd yn gyfrifol am y defosiwn.  Treuliwyd prynhawn addysgiadol a bendithiol iawn.  I orffen yn hwylus roedd yn hyfryd cael lluniaeth oedd wedi ei baratoi gan aelodau Capel Gwyddgrug.

Dweud eich dweud