“Profiad bythgofiadwy,” yn ôl Peredur Llywelyn, disgybl blwyddyn 12 yn Ysgol Bro Teifi, oedd taith diweddar yr ysgol i Efrog Newydd a Washington. Cawson nhw fodd i fyw yn ymweld â holl brif atyniadau Efrog Newydd mewn deuddydd ac yna tawelwch a phrydferthwch Washington!
Dechreuon nhw ar eu taith yn ymweld â chartref John Lennon a Central Park, ymlaen wedyn i Rockafella Center a Time Square. Cawson nhw’r cyfle i weld sioe gerdd ‘Six’ ac yn ôl Mari Thomas, disgybl arall o flwyddyn 12, “Roedd hwn yn brofiad a hanner!” Aethon nhw ar daith i Ynys Liberty, lle gwelson nhw’r cerflun enwog 93 metr o uchder a roddwyd i America yn 1886. Bu tawelwch yr Amgueddfa Cofio 9/11 yn brofiad ysgytwol lle cawson y cyfle i weld ffilm o’r digwyddiad trist. Yn anffodus ni ddaeth cyffwrdd â’r ‘charging bull’ a Wall Street ag unrhyw lwc iddyn nhw ond yr oedd yn hynod ddiddorol am fod nifer o’r disgyblion yn astudio Busnes a Hanes i Lefel A. Roedd gweld y ddinas ar ei gorau yn y nos o gopa One World Observatory wir werth ei wneud.
Gorffenwyd y daith o gwmpas Efrog Newydd yn Soho cyn iddyn nhw ddechrau ar eu taith i Washington. Ar y ffordd i Washington fe wnaethon nhw aros yn gyflym yn Philadelphia i redeg i fyny yr enwog ‘Rocky Steps’, un o’r lleoliadau ffilmio enwocaf. Cafwyd llun cyflym o gerflun a grëwyd ar gyfer golygfa yn y ffilm Rocky III.
Treuliwyd eu diwrnod cyntaf yn Washington gyda thywysydd gwybodus iawn yn ymweld â llawer o henebion a chofebion enwog gan gynnwys cofeb Lincoln, cofeb Jefferson, cofeb Fietnam ac i goroni’r cyfan, cofeb un o arwyr y disgyblion, Martin Luther King. Aethon ymlaen i Amgueddfa’r Archifau Cenedlaethol lle gwelson y dogfennau ‘Charter of Freedom’ ynghyd ag un o’r pedwar copi gwreiddiol o’r Magna Carta.
Aeth eu tywysydd â nhw wedyn i fynwent Arlington, ymwelon nhw â beddrod y Milwr Anhysbys a gweld seremoni newid y gwarchodwyr. Roedd eu taith i Capitol Hill yn ddiddorol ac yn addysgiadol iawn, dyna lle mae’r Senedd a Thŷ’r Cynrychiolwyr yn llunio cyfreithiau’r wlad. Ac yn olaf oll fe dreulion nhw rai oriau yn Llyfrgell y Gyngres ac Amgueddfa Hanes Cenedlaethol.
Yn ôl Alaw Evans, disgybl blwyddyn 12, “Bu’r profiad yn wirioneddol anhygoel ac mae’n diolch yn fawr i’r ysgol a’r staff a roddodd eu hamser i fynd â ni ar y daith unwaith mewn bywyd yma. Diolch hefyd i gwmni Delineate am noddi’r siwmperi.”
gan Mari Thomas , Peredur Llywelyn ac Alaw Evans