Cwis chwaraeon Carthen360 i groesawu’r tymor newydd

Rhowch gynnig ar gwis chwaraeon lleol Dyffryn Teifi

Mae 1 Medi bob amser yn arwydd o ddechrau newydd – mae’n ddechrau tymor ysgol, yn ddechrau blwyddyn ddiwylliannol, ac yn ddechrau tymor newydd i gampau’r gaeaf.

Dyma rownd lleol o gwis a gafodd ei chynnal neithiwr i groesawu nid yn unig y tymor chwaraeon newydd, ond cylchgrawn newydd i fod yn gartref i gampau Cymru – Chwys.

Os chi’n mwynhau’r cwis, byddwch chi’n siŵr o fwynhau Chwys – gallwch danysgrifio i’r cylchgrawn digidol heddiw am fargen o £1 y mis.

Cwestiwn 1

Beth yw lliw ail git Clwb Rygbi Castell Newydd Emlyn?


Cwestiwn 2

Mae Llandysul yn chwarae criced yn Adran 1 De Cymru. Pa 2 dîm arall yn yr adran sy’n dechrau gydag Ll?


Cwestiwn 3

Pwy sy’n chwarae pêl-droed yn Barc Troedyrhiw?


Cwestiwn 4

Sawl cyn chwaraewr o adran Iau Castellnewydd Emlyn sydd yng ngharfan rygbi Cymru ar gyfer Cwpan y Byd?


Cwestiwn 5

Pa 2 beth sy’n croesi ei gilydd ar fathodyn Clwb Hoci Castellnewydd Emlyn?