Rhedwyr ein hardal

4 disgybl yn rhedeg yng nghystadleuaeth Trawsgwlad Cymru

Alaw Grug Evans
gan Alaw Grug Evans

A wyddoch chi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg cychwynnodd rhedeg trawsgwlad? Cafodd pencampwriaeth trawsgwlad cyntaf Cymru ei chynnal yng Nghaerdydd yn 1894, ac mae rhedeg trawsgwlad dal yn boblogaidd hyd heddiw.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae nifer fawr o blant dros Gymru gyfan wedi bod yn rhedeg nerth eu traed mewn cystadleuaeth trawsgwlad. Y pedwar plentyn lwcus sy’n cynrychioli Dyfed yng nghystadleuaeth Cymru ydy, Harriet Davies (Bl.7), Deio Thomas a Amelia Williams (Bl.9) a Leisa Thomas (Bl.11). Mae’r pedwar yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Teifi ac yn serennu mewn rhedeg.

Ar ôl cystadlu mewn cystadleuaeth heriol iawn yn Aberhonddu ces i gyfle i siarad gyda’r pedwar.

Mae Harriet Davies yn ddisgybl ym mlwyddyn 7 sy’n mwynhau chwaraeon o bob math, yn enwedig rhedeg a marchogaeth. Ers i Harriet fod yn yr ysgol gynradd mae hi wedi bod yn cystadlu yn y gystadlaethau trawsgwlad. I baratoi ar gyfer y cystadlaethau mae Harriet yn rhedeg bob dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac mae’n gweithio’n galed ar ei thechneg. Dymunwn ddyfodol disglair iddi.

Rhedeg 3,500m oedd her Amelia Williams o flwyddyn 9. Llwyddodd Amelia i ddod yn ddegfed allan o Gymru gyfan gan gynrychioli Dyfed. Ers 6 mlynedd mae Amelia wedi bod yn aelod brwd gyda Rhedwyr Harriers yng Nghaerfyrddin ac yn ddiweddar y mae hi wedi llwyddo i dorri record. Cipiodd Amelia yr ail wobr yng nghystadleuaeth ‘Welsh Indoor 3,000m’ mewn 10 munud! Tipyn o gamp yn wir. Dal ati Amelia!

Brawd a chwaer o ardal Llandysul yw Deio a Leisa Thomas. Mae’r ddau yn mwynhau rhedeg ac yn amlwg yn arbenigwyr! Cyn cystadlu nid oedd Leisa yn teimlo’n hwylus ond fe wnaeth hi rhoi ymdrech penigamp mewn i’r rhedeg gan helpu un o’i chyd rhedwyr oedd wedi anafu. Roedd y cyrsiau rhedeg yn amrywio gyda’r tirwedd gwahanol er mwyn gallu herio pob unigolyn.

A fyddech chi’n medru rhedeg trawsgwlad? Pam na wnewch chi roi cynnig arni?