Teithiodd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Gaerdydd dros y penwythnos er mwyn chwarae yn erbyn trydydd tîm Prifysgol Caerdydd. Gobeithiai’r tîm eu bod nhw’n herio tîm o goesau gwan gan fod tîm y brifysgol wedi chwarae’r diwrnod cynt hefyd, ond nid dyma’r stori.
Yn y 15 munud cyntaf, roedd Emlyn wedi ymosod yn gryf a llwyddo i gadw’r bêl yn hanner y tîm cartref, gan alluogi digonedd o gyfleoedd i chwaraewyr y llinell ganol sef Mel Williams, Sioned Davies ac Amity Hayward i reoli’r chwarae. Pan ddarganfyddu tîm y brifysgol eu traed, roeddent yn llwyddo i herio’r amddiffynwyr ac wedi cael cyfle i saethu yn erbyn y gôl-geidwad hanner cyntaf, Ellie Lloyd.
Dwy chwaer ochr yn ochr oedd yn y cefn i Emlyn, Heledd-Mai a Caryl-Haf Lloyd, a oedd yn perfformio taclau cryf wrth ochr Gwawr Evans, ond nid oedd hyn yn ddigon i flaenwyr talentog prifysgol Caerdydd gan lwyddo i roi’r bêl yn y rhwyd. Gwnaeth hyn arwain at yr ail yn mynd heibio Emlyn o fewn 5 munud. Y sgôr hanner amser oedd 2-0, oedd yn golygu fod gan y menywod gwaith caled i’w wneud yn yr ail hanner os roeddent am guro’r tîm yma.
Ar ôl derbyn geiriau cadarn gan y cadeirydd a hyfforddwr Mark Hayward, bwriad y tîm oedd anelu i sgorio o fewn y munudau cyntaf o’r ail hanner. Llwyddwyd, o bêl Williams o du allan i’r cylch ymosodol i Enfys Davies, ac yna croesiad i Sara Patterson er mwyn ei roi yng nghefn y gôl. Dyma’r pwynt positif oedd angen ar y tîm erbyn hyn.
Er, nid dyma’r diwedd ar gyfleoedd Prifysgol Caerdydd i sgorio gôl, gan ei bod wedi llwyddo i ennill sawl cornel gosb, ond roedd amddiffynwyr Emlyn a gôl geidwad yr ail hanner Caryl-Haf wedi llwyddo i arbed y bel i’w fynd heibio. Daw’r cymorth i amddiffyn o chwaraewyr ifanc a thalentog Izzy Stedman ac Alaw Elisa a wnaeth aros yn gadarn trwy gydol y gêm a lledu’r bel yn gryf i’r asgellwyr – Sioned Davies a Soffia Cynwyl.
Gyda’r blinder yn taro Emlyn gyda phrinder eilyddion, roedd y tîm cartref wedi llwyddo i sgorio 4 gôl arall heibio’r tîm. Y sgôr terfynol oedd 6-1, felly colled fawr i Emlyn sy’n edrych i orffen yn y 3 uchaf o’r gynghrair.
Enfys Davies wnaeth dderbyn chwaraewraig y gêm, ac yn llawn haeddiannol yn enwedig ar ôl derbyn newyddion arbennig o gael ei dewis i gynrychioli Cymru dros 45 oed ym mis Mehefin.
Mae’r menywod ar yr hewl i Gaerdydd eto ddydd Sadwrn er mwyn herio trydydd tîm Eglwys Newydd ac yn gobeithio derbyn y 3 phwynt.