Roedd amodau’r tywydd yng Nghanolfan Hamdden Crymych yn wych i fenywod Castell Newydd Emlyn ar gyfer eu gem yn erbyn tîm cyntaf Radnor. Ar ôl sawl penwythnos o golledion wrth chwarae oddi-gartref, roedd y tîm yn awyddus i wneud y fwyaf o’r fantais gartref er mwyn ennill pwyntiau yn y gynghrair.
Roedd y ddau dîm yn edrych yn hafal yn ystod y deng munud gyntaf, gyda’r meddiant yn newid yn gyflym. Cafodd triawd amddiffynnol Emlyn gan gynnwys Ellie Lloyd, Ffion Davies ac is-gapten Sioned Davies eu profi gan blaenwyr talentog Radnor, yn enwedig yn y sianel ganol a’r dde. Er hyn, roedd y meddiant yn newid yn gyflym o ganlyniad i sgiliau amddiffynnol Elen Hill a oedd wedi llwyddo i ennill y bêl ar sawl adeg.
O sgiliau ymosodol y capten Sara Patterson i lawr yr asgell chwith, enillwyd cornel gosb, ble tro’r canolwraig Mel Williams oedd i daro’r bêl i frig y gôl i roi Emlyn ar y blaen.
Achoswyd yr asgellwr dde Sioned Fflur Davies broblemau i amddiffynwyr Radnor ar sawl achlysur gan nad oeddent yn gallu ymdopi gyda’i chyflymder. Yn dilyn cyfres o basiau manwl gywir o’r chwaraewr canol cae Gwawr Evans, cafodd Sioned doriad yng nghanol y cae gan gysylltu gyda Carys Owen, eiliadau ar ôl iddi gymryd i’r cae. Wnaeth hyn arwain at gôl cyntaf y tymor i Carys a rhoi Emlyn ar y blaen o 2-0 wrth fynd at hanner amser.
Nid oedd Radnor wedi gwneud gweddill y gêm yn hawdd i Emlyn wrth ddod ’nôl fewn i’r gêm yn llawn egni. Roedd chwaraewyr ymosodol Radnor yn gyflym gan herio’r amddiffynwyr ail hanner Lois Davies a Lowri Hubbard.
Roedd Sioned yn y cefn mor gryf ag arfer, yn cysylltu’n dda gyda Rosie Hughes ac Efa Jones, ac eto yn rhyddhau’r bêl yn fanwl gywir i flaenwr Sioned Fflur. O rediad Sioned Fflur unwaith eto, ond y tro yma yn cysylltu gyda’i mam Enfys Davies gyda’i siot at y gôl yn arwain at un arall yn mynd heibio’r gôl geidwad. 3-0 i’r tîm cartref.
Parhaodd Efa Jones i ddriblo’r bêl yn gryf, gan ennill cornel gosb i Emlyn, ond y tro yma roedd yr amddiffynwyr wedi darllen dilyniant Enfys a Mel gan osgoi’r bêl rhag mynd i mewn i’r gôl.
Roedd dyfalbarhad Radnor yn weledol trwy gydol yr ail hanner ac yn dilyn safiadau arbennig gan gôl geidwad y tîm cartref Elin Williams, llwyddodd Radnor i roi’r bêl ym mhoced dde’r gôl.
Fel arfer, parhaodd Emlyn i wthio ac roedd sgiliau’r chwaraewr ifanc Flo Plant yn werth gweld wrth iddi ddod i’r cae yn lle Sioned Fflur. Wnaeth Sara Patterson doriadau gwych i lawr canol y cae a diddanodd y gynulleidfa, ond heb lwyddo i fynd o gwmpas y gôl geidwad y tro yma.
Derbyniodd Sioned Fflur chwaraewraig y gêm, ond roedd y cadeirydd Mark Hayward yn falch iawn o berfformiad y tîm gan arwain at lwyddiant haeddiannol i fenywod Emlyn.
Rhaid rhoi diolch i noddwyr y gêm – Patterson Transport Ltd, Therapi Ellie Lloyd a Bois Y Mowo.
Mae gan y menywod gêm bwysig tu hwnt penwythnos nesaf yn erbyn tîm cryf Penybont – a dyma gêm olaf y tymor i’r menywod. Bydd y tîm yn gwerthfawrogi unrhyw gefnogaeth posib am 13:30 yng Nghanolfan Hamdden Crymych ddydd Sadwrn y 1af o Ebrill er mwyn gobeithio gorffen y tymor mewn steil.