Blog Byw Chwaraeon

Dilynwch am y diweddaraf o’n gemau lleol!

Cerian Eleri Rees
gan Cerian Eleri Rees
Screenshot-2023-04-01-at-11.21.38Llun o Facebook Addysg Gorfforol Ysgol Bro Teifi

Cadwch lygad mas am gyffro ein clybiau lleol!

14:01

Sara Patterson yn SGORIO!!! 1-1

13:59

Merched Emlyn yn cymryd eu ail cornel gosb, ond amddiffyn Penybont yn gryf. Yn dilyn hynny, roedd gan ferched Penybont gornel gosb. Gydag amddiffyn gwych Emlyn, mae’r sgôr yn parhau i fod yn 1-0. 

13:49

Penybont yn gweithio yn galed trwy’r chwaraewyr cefn ac yn cymryd ‘shot’ ar gôl ac yn llwyddiannus. 1-0 i Penybont. 

13:41

Dyma oedd cyflwr y cae bore ma. Diolch yn fawr i fois y pwyllgor am ddod â’u ffyrc i helpu mas!!

13:38

Ar y chwiban mae’r pwysau ymlaen i’r ddau dîm. 

13:17

Dyma’r ddau dîm am heddi. Yn gic gyntaf am 2:30pm.

13:02

Tîm menywod hoci Emlyn yn paratoi ar gyfer ei gêm yn erbyn Penybont am 13:30 yng Nganolfan Hamdden Crymych – ac mae’r glaw wedi stopio!

Dyma’r sgwad ar gyfer heddiw:

Angharad Jenkins (GK)

Sara Patterson (C)

Sioned Davies (VC)

Ellie Lloyd

Caryl-Haf Lloyd

Ffion Sara Davies

Elen Hill

Lois Davies

Mel Williams

Rosie Hughes

Efa Jones

Gwawr Evans

Alaw Elisa

Enfys Davies

Sioned Fflur Davies

Izzy Stedman

12:40

Y tywydd gwlyb yn golygu fod y ddwy gêm oedd i fod i’w chwarae heddiw wedi’u gohurio! Newyddion drwg i rai, newyddion da i dafarndai Llandysul – bydd y bois draw wap! 

11:48

Bore da! Fi, Gwion Dafydd, bydd da chi o Ddôl Wiber gyda’r diweddaraf o gêm Castellnewydd Emlyn vs Felinfoel. Just yn cael paned cloi cyn dechre ar y daith i’r clwb!

Mae’r sylwadau wedi cau.

11:47

Oherwydd y tywydd, mae gemau pêl-droed Bargod, Ffostrasol a Pencader wedi’u gohirio!