Elen, mam Owain Glyndwr yn ysbrydoli murlun Meinir Mathias ar Calon Tysul

Canolbwynt Plethu yn 2023 yw cydweithio â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru sydd ar dân dros e

Plethu Llandysul
gan Plethu Llandysul

Mae cynlluniau cyffrous ar droed yn Llandysul fel rhan o Plethu 2022-2023. Partneriaeth rhwng Ffynnon Llandysul, Calon Tysul a Clinig Bach y Wlad yw’r gwaith sy’n cael ei gydlynu gan y ffotograffydd lleol Lleucu Meinir.

Bu Lleucu yn cydweithio gyda’r hanesydd lleol, John Davies, y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor a blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Llandysul yn 2012 yn archwilio cysylltiad Elen, mam Owain Glyndwr ag ardal Llandysul. Mae’n hanes pwysig sydd wedi ei anghofio. Trwy grant ‘Creu’ Cyngor y Celfyddydau a chefnogaeth gan The Ashley Foundation a CAVO mae cyfle yn 2023 i ddatblygu ar waith disgyblion Ysgol Gynradd Llandysul a fu’n chwilio am leoliad llys Owain Glyndwr yn ardal Llandysul.

Mae John Davies wedi gwneud llwer o waith archwilio ers 2012 a gall nawr honi yn hyderus mai Gwesty’r Porth, Llandysul yw’r lleoliad mwyaf tebygol i hen lys teulu Elen, mam Owain Glyndwr. Tan ei chyfnod hi yng nghanol yr 1300au mae’n debygol bod ei chyndadau yn byw mewn twr pren ar mwnt a beili gyferbyn â fferyllfa Lloyds ar Heol yr Eglwys. Castle Field ac yna Castle House oedd enw’r ardal yma tan yn ddiweddar. Gellwch edrych ar waith CADW yn hen datblygu llys Tretwr i gael syniad o sut fuasai llys Glyndwr yn Llandysul wedi edrych.

Canolbwynt Plethu yn 2023 yw cydweithio â rhai o artistiaid mwyaf blaenllaw Cymru sydd ar dân dros ein hiaith, ein diwylliant a’n hanes er mwyn trefnu dathliad yn Llandysul ar Ddydd Owain Glyndwr 16.9.23. Bu Eddie Ladd, Lleuwen Steffan ac Ed Holden (Mr Phormula) yn cydweithio gyda criw Plethu yn 2021 wrth ddatblygu tafluniadau ffilm i ddathlu’r cydweithio cyson trwy argyfwng sy’n digwydd yn ardal Llandysul. Bydd y tri yn datblygu ar y cydweithio yna yn 2023 wrth ddatblygu gwaith theatr a cherddoriaeth ar gyfer cynhyrchiad arbennig ‘Ffair Elen’ ar ddydd Sadwrn 16.9.23.

Hoffai Llandysul wahodd y byd i ddod i’r dref ar y penwythnos hwnnw i ddathlu ac i ddysgu am Elen, mam Glyndwr. Bydd y dathlu yn cychwyn nos Wener 15.9.23 a bydd modd gwersylla yn Llandysul.

Trwy mis Mai bydd Eddie Ladd yn sgwrsio gyda llwyth o bobol a grwpiau yn Llandysul ar ardal i weld siwd hoffai pawb gyfranu i’r cynhyrchiad. Mae Clwb Hoci Llandysul, Yr Ardd, criw Y Paddlers, Capten Twr Eglwys Tysul, ffotograffwyr lleol ac arbenigwyr mewn clwyfau yn barod wedi eu plethu fewn i’r dathliad. Cysylltwch gyda Lleucu os hoffech gwrdd am sgwrs gydag Eddie (07966 014348 / lleucumeinir@gmail.com) I drafod siwd ellwch chi neu grwp chi’n cynrychiolu ddod yn rhan o’r daith.

Hoffai criw Plethu ddiolch yn fawr i Bwyllgor Calon Tysul am roi caniatad i Meinir Mathias i beintio murlun anferth ar ochr eu hadeilad. Trwy mis Mai 2023 bydd Meinir yn dechrau cydweithio gyda blynyddoedd 3 a 4 yn Ysgol Bro Teifi a gyda’r gymuned yn ehangach i archwilio cysyniadau posib am y murlun a fydd yn cael ei ysbrydoli gan Elen, mam Glyndwr a phwysigrwydd arweinwyr cryf mewn cymunedau yng Nghymru. Cadwch olwg ar dudalen facebook Plethu a gwefan Calon Tysul am ddyddiadau allweddol. Croeso ichi ffonio Lleucu i drefnu sgyrsiau hefyd.

BYDD DIWRNOD I’R GYMUNED GYFAN YN CALON TYSUL DDYDD SADWRN 27.5.2023 I WELD SYNIADAU TERFYNOL MEINIR AR GYFER EI GWELEDIGAETH AM Y MURLUN.

Mae croeso i bawb daro draw i Ystafell Weithgaredd Calon Tysul i wneud gweithgaredd celf gyda Meinir a’r criw ac i roi adborth i’r cysyniadau am y murlun. Bydd wal allanol Calon Tysul yn cael ei beintio yn wyn ddiwedd Mai yn barod I Meinir ddechrau ar ei gwaith yn Mehefin. Bydd hi wrthi am 4-6 wythnos yn cwblhau y gwaith o gwmpas y tywydd.

OS OES GENNYCH UNRHYW MASONARY PAINT O GWMPAS Y GALLECH EI ROI I’R GWAITH BUASWN YN DDIOLCHGAR IAWN AMDANO. DOES DIM OTS OS NAD YW’R TUN YN LLAWN.