Cystadlu Brwd yn Rali Ffermwyr Ifanc Sir Gar

Diwrnod brysur i C.Ff.I Capel Iwan ar Safle’r Sioe, Nantyci yn Rali’r sir!

gan Sara Jones

Aelodau’n wên o glust i glust wrth dderbyn y dlws!

Aelodau’n cael noson BBQ a rownderi i ddathlu

Elen Bowen a Sara Jones Aelod Hŷn a Iau y flwyddyn Sir Gâr eleni

Mwynhau yn y ddawns!

Ar ddydd Sadwrn y 13eg o Fai cafodd aelodau clybiau ffermwyr ifanc Sir Gâr diwrnod brysur iawn yn rhedeg o gwmpas y maes i gystadlu yng nghystadlaethau di-ri y diwrnod!

🌟RALI 2023🌟

Wel am ddiwrnod! Llongyfarchiadau i’r holl aelodau a oedd yn cystadlu, roeddech chi’n fishi iawn a’ch gwaith caled wedi talu ffordd!

🏆Llwyddodd C.Ff.I Capel Iwan ennill Adran Iau y Rali eleni gan hefyd ddod yn 3ydd yn yr Adran Hŷn!

Diolch i’r holl hyfforddwyr, arweinyddion a rhieni am eich help yn ystod yr wythnosau diwethaf!

Canlyniadau’r diwrnod:

🥇af Unawd Hŷn

🥇af Paratoi Llo Bîff Hŷn

🥇af Gwaith Pren Iau

🥇af TOW Iau

🥇af Canu Grŵp Iau

🥇af Canu Grŵp Hŷn

🥇af Sgiliau ar y Sbot Hŷn

🥈il Ail Greu Sgets

🥈il Hyrwyddo eich Clwb

🥉ydd Generation Game Iau

🥉ydd Gwaith Pren Hŷn

🥉ydd TOW Menywod

4ydd Arwydd i Hyrwyddo’r Rali a Saethu Colomennod Clai

5ed Generation Game Hŷn, Sgiliau ar y Sbot Iau a Main Ring Display

8fed Trin Gwlân ac Adeiladu Piler

Diolch hefyd i’r sir a’r swyddogion am drefnu’r Rali eleni eto. Welwn ni chi flwyddyn nesa!