Tynnu’r Gelyn

Clwb Caerwedros a chapel iwan yn cystadlu’n frwd

Alaw Grug Evans
gan Alaw Grug Evans
85CC7093-07F6-497D-A4FE

Clwb Capel Iwan

573D8A6F-069D-4C44-83B7

Clwb Caerwedros

Beth mae tynnu’r gelyn yn feddwl i chi? Wel cystadleuaeth tynnu rhaff neu ‘tug of war’ yw, sydd wedi bod yn boblogaidd ers blynyddoedd bellach.

Cychwynwyd y gystadleuaeth tynnu’r gelyn yn ôl yn y gemau olympaidd hynafol, ac erbyn hyn er nad yw yn rhan o’r gemau olympaidd bellach, mae dal yn mynd o nerth i nerth. Yn y gystadleuaeth mae dau dîm o tua wyth i ddeg o bobl yn tynnu rhaff yn erbyn ei gilydd, a’r buddugol yn tynnu y tîm arall dros y linell i ennill.

Mae yna amryw o wahanol ffyrdd o gystadlu gan bod y gystadleuaeth erbyn hyn yn gallu cael ei gynnal dan-do a thu allan. Mae’n gystadleuaeth cystadleuol iawn! Wrth i’r sioe frenhinol agosau, mae plant a phobl ifanc ein hardal yn ymarfer eu sgiliau tynnu rhaff yn wythnosol . Yn rali Sir Gaerfyrddin a Cheredigion eleni, bu clybiau Clwb Ffermwyr Ifanc Capel Iwan a Caerwedros yn fuddigol yn y gystadleuaeth tynnu’r gelyn. Ac felly o ganlyniad i’w buddigoliaeth maent yn cael y fraint o gynrhychioli ei clwb a chystadlu yn y Sioe Frenhinol ar dydd Mercher 26ain o Orffennaf.

Dros y penwythnos diwethaf aeth y ddau dîm i gynrhychioli ei clwb yng nghystadleuaeth y ‘Welsh Tug of War Junior Championships’ yn Trecastell. Cafwyd cystadleuaeth heriol iawn o safon uchel yn y bore, gyda’r ddau dim yn tynnu’n galed ac yna tynnu eto yn y prynhawn yng nghystdleuaeth tynnu’r gelyn Trecastell. Bu Capel Iwan yn lwcus i gael tri ail safle. Llongyfarchiade i’r ddau dim a phob lwc yn y Sioe Frenhinol.