gan
Haulwen LEWIS
Trefnwyd Te Prynhawn gan blant Clwb Sul Tabernacl yn ddiweddar. Gwnaed elw o £465 tuag at waith Cymorth Cristnogol yn Twrci a Syria. Gweler rhai o’r plant yn y llun. Diolch am y cyfraniadau tuag at y te, ac am y cymorth i’w baratoi.