O’r diwedd, gem gartref i dîm hoci Castell Newydd Emlyn, ac yn erbyn tîm oedd yn chwarae yn y gynghrair uwchben llynedd, felly roedd y merched yn gwybod byddai gem heriol o’u blaen.
Dechreuodd y gêm yn weddol hafal gyda’r ddau tîm yn cael cyfnodau o feddiant gyda chwarae cryf ar yr asgell dde rhwng Rosie Hughes a Sioned Fflur Davies. Er hyn, roedd Rhondda yn ymosod yn gryf gan roi pwysau ar y llinell amddiffynnol, is-gapten Sioned Davies, Caryl-Haf Lloyd a Ffion Davies, ond drwy berfformio taclau cryf llwyddwyd i gadw’r bêl tu allan i’r hanner cylch.
O waith yr ymosodwyr a’u pwysau ar amddiffynwyr Rhondda, llwyddwyd i ennill mantais o’u camgymeriad nhw, gydag Enfys Davies yn bachu ar y cyfle i saethu at y gôl, a llwyddo i roi’r tîm cartref ar y blaen.
Ni arhosodd y sgôr fel hyn am sbel gan lwyddodd Rhondda i roi’r sgôr yn gyfartal rhai munudau yn ddiweddarach. Ond, ni stopiodd hyn Emlyn rhag manteisio ar gyflymder yr asgellwr Sioned Fflur gan iddi basio’r amddiffynwyr a chroesi’r bêl at Sara Patterson er mwyn rhoi’r bêl yng nghefn y gôl, 2-1.
Parhaodd y brwdfrydedd gan y tîm cartref ond y tro yma i lawr yr asgell chwith drwy waith Alaw Elisa yn cysylltu gyda Patterson yn y cornel, cyn darganfod Enfys wrth ochr yr hanner cylch i’w groesi mewn i Sioned Fflur i gael ei gol gyntaf o’r tymor. 3-1 i Gastell Newydd Emlyn ar hanner amser.
Wrth ddechrau’r ail hanner, roedd yn gyfle i chwaraewyr ifanc Lisa Hughes, Izzy Stedman a Flo Plant i roi ei marc ar y gêm a berfformiodd y tair yn arbennig yn erbyn tîm sefydlog iawn. Roedd Rhondda yn ymosod yn gryf gan dorri drwy ganol y cae gan roi gwaith caled i Elen Hill a Ellie Lloyd ac ar ôl brwydro am ychydig llwyddwyd i ennill cornel gosb. Yn dilyn llwyddiant o arbed y corneli gosb rhag mynd heibio’r llinell, roedd Rhondda wedi penderfynu codi’r bel i gornel chwith y gôl gan ddod a’r sgôr i 3-2.
Gyda’r tîm eisiau lledaenu’r bwlch ychydig yn fwy er mwyn fod yn fwy cyfforddus, roedd Heledd-Mai Lloyd a Mel Williams yn perfformio’n gryf yn y canol ac yn edrych am gôl. Serch hyn, roedd y cynnig ar gôl ychydig yn fyr gan Williams ond llwyddodd Patterson i roi’r bêl yn y gôl ar y postyn cefn i ddod a’r sgôr i 4-2.
Roedd chwarter awr anodd o flaen y tîm cartref er mwyn cadw’r fuddugoliaeth ac unwaith eto roedd y meddiant yn symud rhwng y ddau dîm yn gyson. Gyda llawer o chwaraewyr yn yr hanner cylch, llwyddodd Rhondda i roi’r bêl dros y llinell i gau’r bwlch yn y sgôr.
Gydag ond munudau ar ôl yn y gêm llwyddodd Rhondda i dorri drwy ganol y cae gan agosâi at y gôl. Angharad Jenkins berfformiodd yr arbediad ffantastig y tro yma a dyma un o’r rhesymau dros Jenkins yn derbyn chwaraewr y gêm. Gorffennodd y gêm yn 4-3 i Gastell Newydd Emlyn ar ôl brwydr a hanner.
Diolch i Patterson Transport Ltd a Ffitrwydd GC am noddi’r gêm. Bydd y merched yn chwarae i ffwrdd yn erbyn Dowlais penwythnos nesaf yn Ysgol Uwchradd Cyfartha.