Dyrchafiad i’r Ail Uwch Gynghrair

Ennill 5-4 yn erbyn Pen-y-Bont

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Mewn gêm bwysig gyda dyrchafiad ar y lein, croesawyd tîm hoci Pen-y-Bont i Grymych ddydd Sadwrn ar gyfer ei ail ymweliad mewn pythefnos. Ar ôl colli 4-1 dydd Sadwrn diwethaf, roedd popeth yn dod lawr i’r gêm yma.

Dechreuodd Castell Newydd Emlyn yn gryf, gan ddefnyddio ei gwybodaeth am gryfderau Pen-y-bont o benwythnos diwethaf. Roedd y meddiant yn cael ei hawlio rhwng y ddau dîm yn y munudau cyntaf, felly roedd yn ras i gael y gôl cyntaf. Cafodd y bêl ei chwarae i lawr yr asgell chwith drwy waith Elen Hill ac Amy Purnell, ac roedd y tîm wedi cyrraedd y cylch ymosodol. Gyda chroesiad ar draws gól, roedd Sioned Fflur yno i roi’r bêl mewn i’r gôl, ond roedd y gôl-geidwad wedi sefyll yn gryf gan hawlio’r bwlch. Mewn brwydr i gael y bêl dros y llinell, capten Sara Patterson wnaeth hawlio’r gôl agoriadol.

Parhaodd Emlyn i ymosod i lawr yr asgell, ond y tro hwn i lawr yr asgell dde drwy law Rosie Hughes a Flo Plant, a llwyddwyd i ennill cornel gosb. Yn benderfynol i ledaenu’r bwlch, Mel Williams wnaeth roi’r bêl yng nghefn y gôl.

Roedd Pen-y-Bont wedi dechrau setlo i mewn i’r gêm ac roedden nhw’n darganfod bylchau i ymosod. Safodd Ellie Lloyd yn gryf yng nghanol y rheng amddiffynnol, yn lledu’r bêl i’r is-gapten Sioned Davies er mwyn dechrau’r ymosodiad i lawr yr asgell. Ar y gwrthymosodiad, llwyddodd Pen-y-Bont i daro’r bêl i mewn i’r gôl gan wneud y gêm yn un diddorol.

O gyfarwyddyd yr hyfforddwr Mark Hayward, safodd Enfys Davies yn uchel ar y cae, yn barod ar gyfer unrhyw beli cryf oedd yn dod trwyddo. Cafodd hyn ei berfformio’n wych o bas rydd a gymerwyd gan Williams. Wnaeth Enfys dderbyn y bêl ar y llinell gefn a llwyddo i ddriblo o gwmpas y gôl-geidwad a sgorio’r trydydd gôl.

Gyda munudau ar ôl o’r hanner cyntaf, llwyddodd Pen-y-Bont i gael ei ail gôl drwy gornel gosb lwyddiannus. Roedd y sgôr yn 3-2 i’r tîm cartref ar yr hanner.

Roedd Castell Newydd Emlyn yn benderfynol i gael y tri phwynt ac roedd ganddynt yr egni i barhau i frwydro. Roedd yr amddiffynwyr Ffion Davies a Caryl-Haf Lloyd wedi dominyddu’r sianel chwith, yn clirio’r bêl i Alaw Elisa er mwyn iddi hi allu dangos ei sgiliau.

Darganfu Heledd-Mai y bylchau, gan weithio’n dda gydag Efa Jones ar yr asgell dde a oedd yn brwydro’n ddiflino i adennill y meddiant. Gyda’i phenderfynoldeb, pasiodd Jones y bêl i mewn i’r cylch ymosodol i Patterson er mwyn sgorio’r pedwerydd gôl i’r tîm cartref.

Roedd Pen-y-Bont wedi parhau i ymosod i lawr y canol, gan wneud i’r gôl-geidwad Elin Williams berfformio safiadau cryf. Gyda’u pwysau parhaus, roedd y bêl wedi llwyddo i groesi llinell y gôl i fynd â’r sgôr i 4-3.

Roedd y goliau yn parhau i ddod, ac roedd Patterson wedi hawlio ei thrydydd yn y gêm diolch i bas gan Enfys. Roedd gan Pen-y-Bont un gôl ar ôl yn y bag hefyd er mwyn cau’r bwlch yn y sgôr i 5-4. Gydag Emlyn yn aros i’r chwiban olaf i ganu, roedd yr hapusrwydd yn cael ei deimlo ar draws y tîm a’r gwylwyr. Mel Williams wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, darganfuwyd bod Castell Newydd Emlyn wedi llwyddo i gael dyrchafiad i’r Ail Uwch Gynghrair, gan olygu y byddant yn chwarae yn yr ail gynghrair gorau yn Ne Cymru’r tymor nesaf.

Hoffa’r clwb ddiolch i Blas Pantyderi, VIP Wales, Glannau Holidays a Gwaith Coed Tomos Jones am noddi’r gêm, a hefyd i’r Crymych Arms am fwyd ar ôl y gêm.

Dweud eich dweud