Croesawyd Gowerton i Grymych Ddydd Sadwrn am y gêm olaf cyn Nadolig. Gyda’r tywydd yn ei herbyn, roedd yn gystadleuaeth o bwy oedd yn gallu gweithio a rheoli’r bel mewn amodau gwlyb. Dechreuodd y tîm oddi cartref yn gryf o’u pas cyntaf, yn ymosod mewn niferoedd ac yn cyrraedd y cylch ymosodol. Tacteg Emlyn oedd i ddechrau gyda 10 chwaraewyr tu ôl y bêl er mwyn darganfod ein lle yn y gêm.
Buodd y ddau dîm yn brwydro’n galed am y pêl yn yr hanner cyntaf, gydag Ellie Lloyd, Ffion Sara, Jacquie Maycock, Lowri Hubbard a Lois Davies yn aros yn gadarn yn y cefn a llwyddwyd i glirio’r bêl allan i’r canolwyr ar sawl adeg. Llwyddodd Gowerton i adennill y meddiant gan arwain at gol gyntaf y gêm ac ar y droed flaen munudau cyn i’r chwiban hanner amser gael ei alw.
Gydag ail hanner mawr o’u blaen, roedd angen i Emlyn ffocysu er mwyn ceisio ddod ’nôl mewn i’r gêm. Roedd y blaenwyr Enfys Davies, Sara Patterson, Emily Barber a Sioned Davies yn brwydro gan ddefnyddio eu cyflymder ond yn gweld yn her i fynd o gwmpas yr amddiffynnwr olaf. Gyda momentwm tu ôl I Gowerton o ganlyniad i’r gôl cyntaf, llwyddodd i sgorio eu ail gôl o’r gêm.
Gweithiodd Mel Williams, Rosie Hughes, Amy Purnell ac Alaw Elisa yn hynod o galed i arafu chwarae Gowerton, yn dilyn meddiant nôl ac ymlaen ac yn bwydo’r bêl i’r blaenwyr gyda’r gobaith o sgorio oleuaf un gôl. Gyda munudau I fynd o’r gêm, llwyddodd Gowerton I ennill cornel gosb, gydag eu chwaraewyr talentog, aeth y bêl I gefn y gôl I wneud y sgôr terfynol yn 0-3.
Elin Williams wnaeth dderbyn chwaraewraig y gêm gyda’i safiadau arbennig unwaith eto tro ar ôl tro. Penderfynwyd y capteiniaid roi eu chwaraewraig y gêm I Alaw Elisa am eu gwaith ddi-stop ar y cae chwarae.
Hoffai’r tîm ddiolch I Ceibo a Davies and Davies furnitures am noddi’r gêm penwythnos yma. Mi fydd y menywod yn derbyn brêc haeddiannol dros y Nadolig yn dilyn hanner cyntaf galed iawn ac yn barod i’r ail hanner.