Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Llongyfarchiadau i deulu James, Blaencowin, Bryn Iwan – Buches Cowin, ar ennill pum gwobr gyntaf a Chwpan y Fuches Limousin Orau yng nghystadleuaeth Clwb Gwartheg Limousin De Cymru a Chanol Gorllewin Lloegr. Y beirniad eleni oedd Patrick Creed, Buches Killerton, Exeter. Enillwyd gwobrau cyntaf am fuches fawr orau, stoc ifanc gorau, treisiad ifanc orau, tarw ifanc gorau a’r fuches orau o’r buchesi i gyd.
Yn y llun mae: Patrick Creed, Carol, Gruffydd, Rheon, Dyfan, Ailbhe a Joan.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn arbennig i Dyfan gan ei fod wedi ei ethol yn Gadeirydd Gwartheg Limousin Prydain, sydd yn anrhydedd fawr iddo ef a’r teulu.