Ar ôl 40 mlynedd o lunio sîn gerddoriaeth Aberteifi, mae’r Label Recordiau Fflach yn dechrau pennod newydd gyffrous fel Fflach Cymunedol.
Bydd y label newydd yn cadw naws y sefydlwyr gwreiddiol- Richard a Wyn Jones, gan adleoli’r label yng nghapel y Tabernacl, ac adeiladu stiwdio recordio newydd sbon i greu cerddoriaeth newydd.
Maen nhw’n gobeithio codi £50,000 i roi dechreuad cadarn i’r cwmni newydd.
Fflach Cymunedol
Mae Fflach Cymunedol yn bennod cyffrous newydd i’r label eiconic i barhau â gwaddol y Brodyr ar ôl eu colli yn 2021.
Wedi’i leoli yn Aberteifi, nod y prosiect yw cadw naws DIY ei sylfaenwyr Richard a Wyn Jones, trwy greu canolbwynt diwylliannol ar gyfer cerddorion lleol. Dros y tair mlynedd nesaf mae’r cynlluniau’n cynnwys adleoli’r label a’r stiwdio i gapel hanesyddol y Tabernacl, lle cafodd Fflach ei sefydlu’n wreiddiol, a’i drawsnewid yn stiwdio reordio newydd sbon fel rhan o ganolfan gelfyddydol fwy.
Maen nhw’n gobeithio codi £50,000 drwy gynnig cyfranddaliadau cymunedol, gan wahodd cefnogwyr i ddod yn gyfranddalwyr am gyn lleied â £50.
“Byddai’n drist gweld y stori’n gorffen”
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan Gronfa Her Fach ARFOR, gyda Nico Dafydd wedi’i benodi fel swyddog y prosiect.
Mewn cyfweliad gyda BroCardi360 dywedodd Nico:
“Buon ni’n ffodus i gael grant Her Fach ARFOR wnaeth alluogi i ni wneud y gwaith o drosi’r cwmni, ail-frandio, dechrau gweithio gyda bandiau, a rhoi’r cynnig cyfranddaliadau yn fyw eleni”
“Mae cymaint o fentrau cymunedol o gwmpas y lle ar hyn o bryd, a’r rhan fwyaf diolch byth yn llwyddiant. Mae criw Y Vale yn Nyffryn Aeron wedi bod i help mawr, ynghyd â menter prynu Crymych Arms. Beth sy’n gwneud ni’n unigryw yw mai’r ‘ased’ sy’n cael ei brynu yw’r creadigrwydd cymunedol, a’r gallu i ryddhau cerddoriaeth, yn hydtrach nag adeilad neu wasanaeth uniongyrchol.”
“Aeth cymaint o lafur cariad mewn i godi’r cwmni, a gwneud hynny i ffwrdd o ganolfannau dinesig Cymru, byddai’n drist gweld y stori yn gorffen.
Lafant
Un o’r bandiau sydd o dan Fflach Cymunedol yw band Lafant.
Yn ôl Meiddyn, 20 aelod o fand Lafant:
“Mae hyn yn gyfle gwych i ni fel band [Lafant] i ddatblygu yn yr ardal, ac yn ffordd dda o hyrwyddo gyda pobol sy’n deall y sîn miwsig yn yr ardal. Mae’n deimlad gwych fod gwaith Richard a Wyn Fflach yn cael ei gario mlaen yn Aberteifi ar gyfer y genhedlaeth nesaf.”
“Mae’n rhoi cyfle i ni berfformio mewn gigs gyda bandiau profiadol fel Mattoidz a Angel Hotel. Ni wedi cael photoshoot gyda ffotograffydd proffesiynol hefyd!”
“Bydd e’n gret cael cwmni fel Fflach Cyf yn Aberteifi i helpu ni fel band i ddatblygu a chyrraedd cynulleidfaoedd ar draws Cymru. Ac hefyd ein bod ni’n gallu creu cysylltiadau gyda bandiau ac artistiaid dros Gymru gyfan.”
Hanes Fflach
Label recordiau Cymraeg yw Fflach, a sefydlodd yn Aberteifi yn 1981 gan y brodyr Richard a Wyn Jones, aelodau o’r band pync Ail Symudiad.
Yn adnabyddus am ei ethos DIY, canolbwyntiodd y label i ddechrau ar roc, pop a ska, cyn ehangu i gerddoriaeth werin, gorawl a thraddodiadol Cymreig yn ei is-labelau Fflach:tradd a Rasp.
Am dros 40 mlynedd, daeth yn lwyfan hollbwysig i artistiaid Cymreig, gan blethu creadigrwydd â chymuned.
Sut i gyfrannu?
Os ydych â diddordeb i ddod yn gyfrandalwr mae gyda chi nes y 17eg o Chwefror 2025 i gasglu pecyn ymaelodi o siop Awen Teifi neu ymaelodi drwy’r ddolen yma – https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScbyUXwhocAv3sUQ_eAbmDtWiYE_xhwsB15AHtX-4x4KCDbww/viewform