Blog Byw Chwaraeon

Dilynwch am y diweddaraf o’n gemau lleol!

Cerian Eleri Rees
gan Cerian Eleri Rees
Screenshot-2023-04-01-at-11.21.38Llun o Facebook Addysg Gorfforol Ysgol Bro Teifi

Cadwch lygad mas am gyffro ein clybiau lleol!

16:18

Gêm rhy agos o lawer, ond buddugoliaeth yn y diwedd 20-17. Edrych yn addawol iawn am ddyrchafiad, ond gewn ni weld sut eith y gemau sy’n weddill. Over and out!

15:40

Cais cynnar yn yr ail hanner i Llyr Jones. Y sgôr felly yn 17-7.

15:37

1 gem i fynd tan ddiwedd y tymor! 

15:30

Flick i Michelle. Gols ail hanner i Sara Evans a Tracey Davies. Sgor Terfynnol – 5-2 i Landysul🙌🙌

15:21

Hanner amser ar Ddôl Wiber, Emlyn yn ennill 10-7. Cais i Dean James, ond wedi gadael Felinfoel mewn reit ar y chwiban yn anffodus.

15:01

Sgrymio pwerus ond dim cais hyd yma. Y sgôr yn 3-0 i’r Emlyn ar ôl cic gosb Shaun Leonard.

14:59

image-12

Gêm llwyddianus i orffen y tymor – sgôr llawn amser 2-1 i Emlyn!!

Chwaraewr y gêm i Enfys Davies.

Mae’r sylwadau wedi cau.

14:49

Mae pwysau ar y ddau dîm. Yn agosau at ddiwedd y gêm, mae Emlyn yn ennill corner cosb ond yn aflwyddiannus.

14:47

2-1 i Landysul. 2ail gôl i Jano Evans

14:35

Munud o dawelwch i gofio am Rhys Tom, a fu’n chwarae i’r clwb.