Blog Byw Chwaraeon

Dilynwch am y diweddaraf o’n gemau lleol!

Cerian Eleri Rees
gan Cerian Eleri Rees
Screenshot-2023-04-01-at-11.21.38Llun o Facebook Addysg Gorfforol Ysgol Bro Teifi

Cadwch lygad mas am gyffro ein clybiau lleol!

14:47

2-1 i Landysul. 2ail gôl i Jano Evans

14:35

Munud o dawelwch i gofio am Rhys Tom, a fu’n chwarae i’r clwb.

14:34

Y ddau dîm yn dangos gêm gryf gyda chwaraewyr penderfynol mae’r sgor yn aros ar 2-1. 

14:20

1-1. Gol llandysul i Sara Evans!

14:18

Bach o fwyd cyn y gêm, gan fy mod yn lwcus bod ffrind yn noddi heddi! Cofiwch gysylltu os am fwrdd yn y dyfodol – am £35 y pen, gewch chi bryd o fwyd 2 gwrs a 4 diod…bargen i unrhyw Gardi!

14:13

Gwaith arbennig gan Sara a Sioni fach yn cydweithio i sgorio eto. 2-1 i Emlyn. 

14:09

Merched Llandysul yn chwarae’r Rhondda, gêm newydd ddechrau!

Mae’r sylwadau wedi cau.

14:01

Sara Patterson yn SGORIO!!! 1-1

13:59

Merched Emlyn yn cymryd eu ail cornel gosb, ond amddiffyn Penybont yn gryf. Yn dilyn hynny, roedd gan ferched Penybont gornel gosb. Gydag amddiffyn gwych Emlyn, mae’r sgôr yn parhau i fod yn 1-0. 

13:49

Penybont yn gweithio yn galed trwy’r chwaraewyr cefn ac yn cymryd ‘shot’ ar gôl ac yn llwyddiannus. 1-0 i Penybont.