Dechrau cynnar i dîm hoci Emlyn dydd Sadwrn ar gyfer eu gêm yn erbyn tîm Dowlais am 11:00. Gan wybod fod y tîm yma wedi cael profiad o chwarae yn yr Ail Uwch Gynghrair llynedd, roeddent yn barod am gêm gystadleuol a heriol.
Roedd amodau’r astro yn wahanol i beth mae’r tîm yn gyfarwydd â gan mae sylfaen tywod oedd ganddo, rhywbeth nad yw’r tîm wedi ymarfer arno am sbel yn dilyn colli astro Aberteifi. Er hyn, roeddent yn gwybod bydd angen gweithio’n galed er mwyn sicrhau fod y bel yn cyrraedd y lle cywir.
Dechreuodd Emlyn yn gryf gan ymosod dro ar ôl tro at amddiffynwyr Dowlais. Ar ôl chwarae cryf o’r canolwyr Rosie Hughes, Mel Williams ac Efa Jones, llwyddodd Heledd-Mai Lloyd i daro’r bel o frig y cylch i gefn y rhwyd o fewn y pymtheg munud gyntaf. Ei gol cyntaf o’r tymor.
Serch hyn, cafodd Dowlais gyfnodau o ymosod yn erbyn amddiffynwyr Emlyn gan arwain at Caryl-Haf Lloyd i berfformio taclau cryf i osgoi’r bel i fynd i’w mynd heibio. Llwyddodd Dowlais i ennill eu cornel gosb gyntaf, ac o’r trawiad cyntaf aeth y bel i’r gôl, 1-1. Parhawyd yn gêm gyfartal wrth ddechrau’r ail hanner.
Gan wybod fod hanner caled o’u blaenau ac o wybod fod y dyfarnwr yn chwarae’n llym gyda’r rheol 5 metr roedd angen i dîm Emlyn fod yn ofalus. Y tro hyn, llwyddodd yr asgellwyr i ddangos ei doniau gyda Sioned Fflur Davies a Sara Patterson yn llwyddo i gyrraedd yr hanner cylch ar gwpwl o adegau. Gyda chefnogaeth Enfys Davies, Izzy Yates a Carys Owen, roeddent yn brwydro i gadw’r bel yn yr hanner ymosodol ond yn methu uwchraddio’r drosedd i gornel gosb.
Torrwyd chwaraewyr Dowlais drwy ganol y cae gan roi pwysau ar amddiffynwyr Sioned Davies, Lois Davies, Ellie Lloyd a’r gôl-geidwad Elin Williams ac ar sawl tro llwyddwyd i glirio’r bêl allan. Ond gydag ymateb cyflym gan y tîm cartref i saethu, roedd y bel wedi llwyddo i gyrraedd cefn y gôl i’w rhoi nhw ar y blaen.
Er roedd Emlyn yn brwydro tan y diwedd, nid yn ffordd y tîm gorllewinol aeth y canlyniad heddiw. Caryl-Haf Lloyd wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm, a oedd yn llawn haeddiannol am y nifer o gorneli gosb wnaeth hi lwyddo i arbed.
Pythefnos o saib ar gyfer tîm hoci Emlyn cyn herio tîm Cymric, adref ar yr 11eg o Dachwedd, ac yna gem gwpan yn erbyn Clwb Hoci Eirias ar y 12fed yng Nghrymych.