Roedd Clwb hoci Castell Newydd Emlyn nol yn chwarae ar ôl pythefnos bant a beth gwell na dwy gêm mewn penwythnos! Croesawyd tîm Cymric i Grymych ddydd Sadwrn – hyfryd cael tîm Cymraeg yn y gynghrair.
Dechreuwyd y tîm cartref yn gyflym ac o fewn pum munud roedd Amy Purnell, Enfys Davies a Sara Patterson wedi darganfod ei hun ar yr asgell chwith. Parhawyd Patterson i ymosod gan lwyddo i ddriblo heibio’r amddiffynwyr a llwyddo i daro’r bel drwy goesau’r gôl-geidwad. Er hyn, roedd Cymric yn gwrthymosod yn hynod o gyflym gan roi pwysau ar amddiffynwyr Sioned Davies, Ellie Lloyd a Caryl-Haf Lloyd. Roedd Elin Williams y gôl-geidwad wedi perfformio safiadau gwych hefyd.
Roedd y tîm cartref yn awyddus am gol arall, ac y tro yma daw’r chwarae ar yr asgell dde o waith Efa Jones a Sioned Fflur, ac yna wnaeth Enfys fanteisio ar y cyfle i daro’r bel i gornel gefn y gol. Yn gyflym ar ôl yr ail gol, wnaeth Enfys darganfod ei hun mewn sefyllfa debyg ond ddaeth y bel o’r ganolwraig Mel Williams y tro yma er mwyn rhoi’r tîm tri gôl yn y blaen. Er bod Emlyn yn ennill 3-0, roedd Cymric yn ymladd yn gryf i geisio cyrraedd yr hanner ymosodol ac fe lwyddon nhw i sgorio gôl cyn hanner amser.
Yn yr ail hanner, ddaeth Cymric allan hyd yn oed yn gryfach ac yn y pymtheg munud cyntaf roedd y chwarae nol a ’mlaen rhwng y ddau dîm. Llwyddodd asgellwyr Izzy Stedman a Flo Plant i rhyng-gipio’r bel ac ymosod yn bwrpasol gan gysylltu’n dda gyda’r llinell flaen. Roedd Cymric yn ffodus i ennill cornel gosb a llwyddwyd i agosâi’r sgôr i 3-2.
Roedd yn amlwg fod Enfys am gael ‘hat-trick’ gan lwyddodd i sgorio ei thrydedd gyda deg munud i fynd. Y sgôr terfynol oedd 4-2 i’r tîm cartref, 3 pwynt haeddiannol. Penodwyd chwaraewr y gêm i Ellie Lloyd am ei gwaith diflino yn y cefn.
Dydd Sul, wnaeth tîm hoci Castell Newydd Emlyn groesawi Glwb Hoci Eirias i Grymych (o Landudno) ar gyfer ei gem cwpan cyntaf. Unwaith eto roedd y chwarae nol ac ymlaen rhwng y ddau dîm gyda’r canolwyr Rosie Hughes, Elen Hill, Lois Davies ac Alaw Elisa yn gweithio’n ddiflino i gadw’r meddiant. Clod hefyd i’r gôl-geidwad Angharad Jenkins am berfformio safiadau arbennig yn enwedig yn yr ail hanner.
Y sgôr ar yr hanner oedd 0-0 felly roedd Emlyn yn gwybod fod hanner caled o’u blaenau. Yn anffodus, ddaeth Eirias allan yn gyflym a llwyddo i sgorio o fewn y deg munud cyntaf o’r ail hanner, gan roi Emlyn tu ôl.
Llwyddodd y llinell ymosodol i gyd-weithio’n dda gan ddefnyddio eu cyflymder i gyrraedd yr hanner cylch ac Izzy Yates bron a chael ei gol cyntaf o’r tymor.
Clod mawr hefyd i’r tîm amddiffynnol am berfformio taclau gwych ac i Ffion Davies am glirio’r bel i’r canolwyr yn gyson. Parhawyd y sgôr yn 0-1 i Eirias sy’n golygu fod taith Castell Newydd Emlyn yng nghystadleuaeth y gwpan wedi dod i ben. Derbyniodd Angharad Jenkins chwaraewr y gêm.
Hoffai Clwb Hoci Emlyn ddiolch i Bois Y Mowo, JJ Morris a Siop Premier Castell Newydd Emlyn am noddi’r gemau dros y penwythnos.