Gêm agos i Glwb Hoci Emlyn

Buddugoliaeth yn erbyn Radnor

Sara Patterson
gan Sara Patterson

Teithiwyd tîm hoci Castell Newydd Emlyn i Landrindod Wells ar gyfer eu taith olaf i ffwrdd o 2023. Mae Radnor yn cael ei adnabod fel tîm sy’n gryf wrth chwarae adref felly roedd her o’u blaenau.

Radnor wnaeth ddechrau ar y droed flaen gan ymosod yn gryf yn erbyn yr amddiffynwyr. Llwyddwyd iddynt sgorio o fewn 10 munud cyntaf y gêm – a doedd Emlyn ddim yn hoff o’r teimlad yma o gwbl.

Wrth i’r gêm barhau, llwyddodd Emlyn i ymgartrefu yn y gêm yn well, gyda phasiau o’r cefn o Sioned Davies a Caryl-Haf Lloyd yn llwyddo i gyrraedd y canolwyr Rosie Hughes a Carys Owen er mwyn ceisio ymosod yn gryf. Gyda thoriad yn y chwarae, roedd y blaenwyr i ffwrdd a llwyddodd Enfys Davies i ddod a’r sgôr yn gyfartal gan roi’r bêl yn y rhwyd.

Yn fuan ar ôl i’r gêm ddod ’nôl yn hafal, roedd Radnor i ffwrdd eto gan ennill cwpwl o gorneli gosb. Llwyddwyd i arbed sawl un o safiadau gwych Elin Williams a Caryl-Haf ond gyrhaeddodd y bel cefn y gôl gan roi Radnor nôl ar y blaen.

Gan ail-sefydlu unwaith eto, roedd ymosod Emlyn llawer yn fwy cryf gyda rhediadau cyflym gan Sara Patterson a Sioned Fflur i gyrraedd yr hanner cylch ymosodol. Llwyddwyd i ennill dau gornel gosb yn ddilynol a thro Efa Jones oedd hi i sgorio ei gol cyntaf o’r tymor, gan ddod a’r sgôr nôl yn gyfartal ar yr hanner.

Gyda gwaith caled o’u blaenau, roedd gan Emlyn waith caled os roeddent yn awyddus i dderbyn y tri phwynt. Roedd Mel Williams yn dal ei thir yng nghanol y cae drwy gefnogaeth Elen Hill a llwyddwyd unwaith eto i ymosod yn gryf ac ennill corneli gosb. Ar ôl ceisio amrywiaeth o wahanol ddilyniannau yn yr hanner cyntaf, penderfynwyd ddod a’r gefnwraig Ellie Lloyd ymlaen i newid y drefn. Roedd y tîm yn falch iawn o’r penderfyniad gan lwyddwyd iddi roi’r bel yng nghefn y rhwyd, ac i ddod ar y blaen. Ei gol cyntaf o’r tymor hefyd.

Roedd tîm hoci Emlyn wedi parhau i frwydro gan berfformio taclau arbennig a rhyng-gipio’r bel dro ar ôl tro gan arwain at fuddugoliaeth oddi gartref, 2-3. Penodwyd chwaraewr y gêm i Ellie Lloyd am ei gwaith amddiffyn diflino. Mae’r tîm yn chwarae adref penwythnos nesaf yn erbyn Aberhonddu yn Crymych am 13:30.