Roedd Castell Newydd Emlyn yn chwarae adref yng Nghrymych ddydd Sadwrn gan wynebu Aberhonddu. Er mai Aberhonddu wnaeth ddechrau’r gêm, roedd Emlyn wedi llwyddo i adennill y meddiant yn gyflym drwy waith canolwyr Elen Hill ac Efa Jones. Roedd y triawd ymosodol Enfys Davies, Sioned Fflur a Sara Patterson yn gweithio’n galed i amrywio’r math o geisiadau ar gôl ond canolwraig Melanie Williams wnaeth llwyddo i sgorio’r gôl cyntaf – Ei gôl cyntaf o’r tymor hefyd.
O fewn munudau, roedd Emlyn yn ymosod unwaith eto i lawr yr asgell chwith gyda chysylltiadau gwych rhwng Carys Owen a Patterson i geisio cyrraedd y cylch. Enfys oedd yn y lle cywir y tro yma i fynd a’r sgôr yn 2-0.
2-0 i lawr, roedd Aberhonddu wedi dechrau setlo i mewn i’r gêm gan roi her i’r amddiffynwyr Ellie Lloyd, Sioned Davies a Ffion Davies. Roedd y tri wedi llwyddo i gadw’r ymosodwyr tu allan i’r cylch ac wedi adennill y meddiant ar sawl digwyddiad. Llwyddodd Aberhonddu i ennill cornel gosb ond drwy gyflymder Caryl-Haf Lloyd roedd hi’n benderfynol i sicrhau nad oedd y bel am fynd pasio hi – a dyma beth yn union wnaeth hi!
Ar ôl brwydro i geisio sgorio fwy o goliau, roedd y sgôr wedi aros yn 2-0 i’r tîm cartref yn mynd mewn i’r ail hanner.
Dechreuodd Emlyn yn gryf unwaith eto gyda Rosie Hughes a Sioned Fflur yn defnyddio ei chyflymder ar yr asgell dde i gyrraedd y cylch. Roedd Williams yn awyddus am gol arall a llwyddwyd iddi fflicio’r bel i’r gôl gan ledu’r bwlch.
Gweithiodd Amy Purnell yn galed ar yr asgell chwith gan gyd-weithio gyda Lois Davies yn y canol er mwyn rhyddhau’r bel i’r ymosodwyr. Yna roedd e’n dro i’r capten – Patterson i daro’r bel i gefn y gôl, 4-0.
Roedd y chwaraewr ifanc Flo Plant wedi sefyll allan yn yr ail hanner ar y ddwy asgell gan ddriblo’n gryf a chysylltu’n dda gyda’i chyd-chwaraewyr. Gyda’r 10 chwaraewr allfaes yn cael gêm brysur, roedd hyn yn golygu fod gôl-geidwad Elin Williams heb gyffwrdd a’r bel unwaith yn y gêm gyfan! Parhawyd y sgôr yn 4-0 i’r tîm cartref a phenodwyd chwaraewr y gêm i Flo Plant.
Hoffai’r tîm ddiolch i Y Sgwâr a Mark Hayward Hair am noddi’r gêm. Un gêm fach arall i’r tîm yma penwythnos nesaf gyda’r gobaith o orffen hanner cyntaf y tymor gyda llwyddiant!