Croesawyd tîm menywod Castell Newydd Emlyn trydydd tîm Prifysgol Caerdydd i Grymych ddydd Sadwrn am ail gêm y tymor. Ar ôl ennill yn eu herbyn yn y gêm oddi cartref, roedd y menywod yn awyddus iawn i dderbyn y tri phwynt unwaith eto.
Prifysgol Caerdydd oedd yn dechrau’r gêm, yn dangos cyflymder a dwysedd uchel o’r chwiban gyntaf. Cafodd y canolwyr dasg a hanner yn dilyn ac ail ennill y meddiant, ond roedd Izzy Stedman, Caryl-Haf Lloyd a Mel Williams wedi llwyddo i arafu eu chwarae ar sawl adeg.
Roedd yr amddiffynwyr, fel arfer wedi perfformio taclau cryf yn erbyn gwaith ffon greadigol y myfyrwyr prifysgol, ac roedd rhaid rhoi clod i Lois Davies, Ellie Lloyd a Ffion Davies. Roedd y drydydd chwaraewr allan o’r triawd cefn – Sioned Davies wedi chwarae’n dactegol drwy ryng-gipio’r bel ar sawl adeg ac ymosod yn gryf i lawr yr asgell dde.
Roedd peli drwodd yn cyrraedd yr ymosodwyr ond yn anffodus ond wedi llwyddo ennill un cornel gosb yn yr hanner gyntaf.
Gyda munudau i fynd o’r hanner gyntaf, o chwarae mantais i’r tim oddi cartref, llwyddodd y canolwr canol cae i daro’r bel i gornel waelod y gol.
Roedd yn rhaid i Emlyn codi’r dwysedd yn yr ail hanner os oeddent am aros yn y gêm, a ddaeth y dwysedd yn y llinell flaen. Daw pasio gwych rhwng Heledd-Mai Lloyd a Enfys Davies o bas gyntaf yr ail hanner, a oedd yn golygu ennill tir tuag at y cylch ymosodol. Gyda chroesiad o Williams, llwyddodd Sara Patterson i godi’r bel dros y gôl geidwad i mewn i’r gôl er mwyn dod a’r sgôr nol yn gyfartal.
Roedd y tîm cartref wedi cadw’r momentwm ac yn gyflym ar ôl sgorio’r un gyntaf, llwyddodd Enfys i daro’r bel tuag at gol, a roliodd mewn i’r gôl o ffon yr amddiffynnwr – Emlyn nol yn y blaen.
Gydag ugain munud i fynd, ddaeth Lisa Hughes a Heini Llewellyn i’r maes a llwyddwyd i ddilyn a rhwystro ymosod y tîm o fyfyrwyr. Perfformiwyd safiadau arbennig gan Angharad Jenkins ac roedd y myfyrwyr yn ceisio’n galed i ddefnyddio ei gallu technegol i fynd nôl yn y blaen. Trwy ddyfalbarhad y tîm oddi cartref, ddaeth y gêm nol i 2-2.
Roedd amser am un arall gyda’r tîm prifysgol pan lwyddodd yr asgellwr de i daro’r bel ar yr ochr gefn yn ddiffwdan i’r cornel gefn. Parhaodd Emlyn i frwydro tan y diwedd ond llwyddodd y tîm ifanc o fyfyrwyr gymryd y tri phwynt y tro hyn. Angharad Jenkins wnaeth dderbyn chwaraewr y gêm.
Hoffai tîm Castell Newydd Emlyn ddiolch i Adeiladwaith Gethin Davies a Llaeth Tŷ Hen am noddi’r gêm. Mae’r menywod i ffwrdd penwythnos nesaf yn erbyn Rhondda am 14:00.